Nofel Ioan Kidd yw Llyfr y Flwyddyn
- Cyhoeddwyd
Mewn seremoni yng Nghaernarfon cyhoeddwyd mai nofel Ioan Kidd, Dewis, yw Llyfr Cymraeg y Flwyddyn 2014.
Fe enillodd yr adran ffuglen ac roedd dan deimlad wrth dderbyn y wobr.
"Dwi mewn sioc," meddai. "Dwi erioed wedi ennill dim byd erio'd o'r blaen.
"Roedd hi'n fraint cael bod ar restr fer gyda Wil [Garn] ac Aled [Jones Williams] ac mae hyn yn golygu cymaint i fi."
Enillwyr eraill yr adran Gymraeg oedd Rhwng y Llinellau yr Archdderwydd Christine James (barddoniaeth) a Bob: Cofiant R Williams Parry 1884-1956 gan Alan Llwyd (ffeithiol greadigol).
Nofel Ioan gipiodd wobr Barn y Bobl oedd yn cael ei gweinyddu gan Golwg360.
Derbyniodd enillydd pob adran £2,000 a thlws, gydag enillydd y brif wobr yn derbyn £6,000 yn ychwanegol.
Yn yr adran Saesneg cyfrol o farddoniaeth enillodd y brif wobr, Pink Mist gan Owen Sheers.
Enillydd yr adran ffuglen oedd Francesca Rhydderch gyda'i nofel hanesyddol The Rice Paper Diaries, a Meic Stephens aeth â hi yn yr adran Ffeithiol Greadigol gyda'i gyfrol Rhys Davies: A Writer's Life.
'Campwaith'
Dywedodd Lowri Cooke, un o feirniaid y panel Cymraeg gyda Gareth Miles ac Eurig Salisbury: "Llechodd Dewis ar waelod y pentwr am hir yn fy achos i tan i fy nghyd-feirniad fy annog i'w ddarllen gyda'r geiriau 'mae'n wych'.
"Daliodd yr enillydd ei dir yn dawel wrth i gyfrolau eraill syrthio o'r golwg dros amser.
"Mae'n gampwaith diymhongar sy'n gafael yn yr enaid a gwrthod gadael mynd. Dyma gyfrol ddyneiddiol sydd o gysur i bawb ac sy'n tyfu'n fwy grymus ar bob darlleniad.
"Ein neges eleni? Da chi, darllenwch hi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd9 Mai 2014