Cyngor Penfro yn wynebu galwadau am ymchwiliad annibynnol
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Penfro yn wynebu galwadau am ymchwiliad annibynnol i'r modd y gwnaeth yr awdurdod ymdrin â honiadau ynglŷn â chyn weithiwr ieuenctid a gafodd ei garcharu am droseddau rhyw yn erbyn plant.
Bydd y Cyngor Llawn yn cwrdd dydd Iau, a bydd yna gynigion yn galw am ymchwiliad annibynnol i rôl rhai o'r prif swyddogion.
Cafodd Mik Smith ei ddiswyddo gan y cyngor yn 2012 ac fe wnaeth y troseddau ddigwydd blwyddyn wedi iddo adael yr awdurdod.
Nos Fawrth fe wnaeth rhaglen deledu BBC Cymru Wales, Week in Week Out ddatgelu fod pryderon am ymddygiad Smith wedi eu codi yn 2005, a hynny gan gydweithwyr.
Fe dderbyniodd rybudd llafar ar y pryd.
Ar ôl cael ei ddiswyddo yn 2012 fe wnaeth o ymosod yn anweddus ar fachgen ifanc.
AMHRIODOL
Mae Joyce Watson, AC Canolbarth a Gorllewin Cymru, wedi galw ar brif weithredwr Penfro, Bryn Parry Jones, i ymddiswyddo oherwydd y modd wnaeth yr awdurdod ymdrin â'r honiadau am Smith.
Yn y cyfarfod dydd Iau mae yna gwestiynau ar yr agenda yn gofyn pam fod Mik Smith wedi cael rôl mor amlwg gyda phlant a phobl ifanc er i gydweithwyr wneud honiadau am ymddygiad amhriodol.
Mae Cyngor Penfro yn dweud eu bod nawr wedi newid canllawiau a'u dulliau rheoli.
Fe fydd y cyngor llawn hefyd yn trafod ymateb y prif weithredwr ar ôl i gynghorwyr bleidleisio o blaid galw am ad-daliad o arian gafodd ei dalu iddo yn anghyfreithlon.
Daeth hyn ar ôl i Swyddfa Archwilio Cymru ddweud fod Cyngor Penfro wedi gweithredu y tu hwnt i'w pwerau wrth iddynt roi taliadau pensiwn o £45,506 yn uniongyrchol i Mr Jones ac un swyddog arall sydd heb ei enwi.
Cafodd taliadau pensiwn eu rhoi yn uniongyrchol i'r ddau er mwyn osgoi trethi.
Mae papur newydd lleol y Western Telegraph yn dweud eu bod wedi cael gafael ar lythyr gan Gymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau lleol ar ran Mr Jones.
Mae'r llythyr yn dweud na fydd Mr Jones yn talu'r arian yn ôl, gan awgrymu fod y cais iddo wneud hynny yn anghyfreithlon.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Sir Benfro na fyddant yn gwneud unrhyw sylw ar y mater cyn y cyfarfod sy'n dechrau am 10am.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Mai 2014
- Cyhoeddwyd19 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd14 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd17 Chwefror 2014
- Cyhoeddwyd30 Ionawr 2014