Edwina Hart yn amddiffyn penderfyniad M4

  • Cyhoeddwyd
Edwina Hart

Mae Edwina Hart wedi amddiffyn ei phenderfyniad i fuddsoddi £1 biliwn ar welliannau i'r M4 i'r de o Gasnewydd.

Dywedodd wrth BBC Cymru bod prosiectau mawr o'r fath yn aml yn cael eu herio yn y llysoedd, ac felly ei bod hi ddim yn synnu i glywed fod sôn am hyn nawr.

"Aeth hyn allan ar gyfer ymgynghoriad ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf ac felly fe aethom drwy'r holl broses gan edrych ar yr holl ymatebion.

"Yr un bobl mwy neu lai wnaeth ymateb i adroddiad y Pwyllgor Amgylchedd.

"Roedd ar fy nesg ac os na fyddwn i wedi gwneud penderfyniad a dweud wrth y Cynulliad ddoe fe fyddwn i wedi cael fy meirniadu, os faswn i wedi gwneud ym mis Awst, ac roeddwn i eisiau aros o fewn yr amserlenni hynny.

"Ar ddiwedd y dydd mae'n bwysig fod y llywodraeth yn llywodraethu a bod gweinidogion yn gwneud penderfyniadau."

'Eithriadol o siomedig'

Disgrifiad,

Carl Roberts fu'n holi Alun Ffred Jones

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Amgylchedd, Alun Ffred Jones wedi dweud fod gwneud y penderfyniad cyn i'r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad ar y mater yn "sarhaus".

Dywedodd Alun Ffred Jones: "Mi gafwyd unfrydedd barn ar bob ochr ar yr adroddiad 'dan ni wedi ei gynhyrchu sydd yn mynegi pryderon y pwyllgor ynglŷn â'r broses a dweud y gwir, sydd wedi ei dilyn tuag at y penderfyniad.

"Wrth gwrs 'dyn ni'n eithriadol o siomedig bod y gweinidog wedi gwneud penderfyniad cyn i ni allu cynhyrchu adroddiad, yn siomedig iawn ei bod hi wedi gwrthod dod o flaen y pwyllgor, yn siomedig fod y CBI wedi gwrthod dod i roi eu safbwynt nhw hefyd.

"Ond mae'r pryderon yn aros am sut y daethpwyd i'r penderfyniad, a rhoddwyd ddigon o sylw i'r agweddau amgylcheddol, cost y prosiect, beth fydd effaith cynlluniau eraill fel y Metro ac yn y blaen..."

Her gyfreithiol?

Mae Cyfeillion y Ddaear wedi dweud eu bod nhw'n ystyried herio'r penderfyniad yn y llysoedd. Roedd eu cyfarwyddwr, Gareth Clubb, wedi dweud wrth BBC Cymru:

"Rydym mor siomedig efo'r ffordd gafodd yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r ymgynghoriad eu gwneud ac rydym yn credu bod nifer o wallau sylweddol yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y broses.

"Oherwydd hynny rydym yn credu bod sail resymol ar gyfer gwneud her gyfreithiol."

Ond doedd hyn ddim i'w weld yn poeni'r gweinidog economi a thrafnidiaeth.

"Gyda rhywbeth fel hyn mae angerdd ar bob ochr, rwy'n gwybod fod pryder am yr amgylchedd, rydyn ni wedi cael ein lobïo o bob cyfeiriad," meddai Edwina Hart.

"Rwy'n siŵr y bydd yna her ond dywedwch chi wrthyf fi pa brosiect fel hyn - bydded e'r HS2 neu unrhyw beth arall - sydd ddim yn cael ei herio.

"Dyna realiti'r byd rydym yn byw ynddo a dyna realiti'r byd rydw i'n gweithio ynddo."

Fe wnaeth Ms Hart wadu bod tuedd gan y llywodraeth i ganolbwyntio gwariant ar dde Cymru.

Dywedodd hefyd ei bod hi'n benderfynol o sicrhau na fyddai cost y prosiect yn cynyddu'n ormodol.

"Fe alla i eich sicrhau chi - os mai fi sydd mewn rheolaeth fydd yna ddim cynnydd o gwbl mewn costau."