M4: Codi amheuon am y ffordd liniaru newydd

  • Cyhoeddwyd
M4
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd y cynllun cyntaf i adeiladu ffordd liniaru ei ddadorchuddio yn 2004

Mae adroddiad gan bwyllgor o'r Cynulliad Cenedlaethol yn codi cwestiynau am benderfyniad Llywodraeth Cymru i godi ffordd newydd er mwyn lliniaru tagfeydd ar yr M4 yn ardal Casnewydd.

Yn ogystal, mae Cyfeillion y Ddaear wedi awgrymu y byddan nhw'n cyflwyno her gyfreithlon i'r cynllun.

Fe gafodd y cynllun sêl bendith Gweinidog Trafnidiaeth Cymru Edwina Hart ddoe - a hynny wythnos cyn i bwyllgor amgylchedd y cynulliad gyhoeddi eu hadroddiad nhw.

Mae'r gwrthbleidiau yn y cynulliad a rhai aelodau Llafur wedi beirniadu amseru cyhoeddiad Ms Hart.

'Pryder mawr'

Mae BBC Cymru wedi gweld copi drafft o'r adroddiad, ac mae'r pwyllgor yn datgan fod ganddynt "bryder mawr" am y broses ymgynghori.

Bydd cyhoeddiad Ms Hart yn golygu y bydd y gwaith ar adeiladu'r ffordd newydd yn dechrau yn 2018 ac yn cymryd wyth mlynedd i'w gwblhau.

Ar gost o £1 biliwn hwn yw'r prosiect drytaf i'w ymgymryd ers i'r Cynulliad Cenedlaethol ddod i fodolaeth.

Fis Medi'r llynedd fe wnaeth llywodraeth gyhoeddi tri llwybr ar gyfer y ffordd lliniaru a hynny ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus.

Mae Golygydd Materion Cymreig y BBC, Vaughan Roderick wedi codi amheuon ynglŷn ag os fydd modd i'r prosiect fynd yn ei flaen heb i'r llywodraeth sicrhau cefnogaeth drawsbleidiol.

Yn ysgrifennu yn ei flog, mae Mr Roderick yn dweud: "Y gwir plaen amdani yw bod angen rhyw faint o gonsensws ac ewyllys wleidyddol hirdymor i wireddu cynllun mor uchelgeisiol.

"Does dim arwydd o gwbl bod y naill na'r llall yn bodoli."

Darllenwch y blog yn llawn drwy glicio yma.

'Ddim digon gwahanol'

Ffynhonnell y llun, llywodraeth cymru
Disgrifiad o’r llun,

Y llwybr du mae'r llywodraeth wedi ei ddewis er gwaetha'r gwrthwynebiad

Ym mis Rhagfyr fe wnaeth arbenigwr ar drafnidiaeth, Stuart Cole gynnig pedwerydd opsiwn- opsiwn sy'n cael ei adnabod fel y llwybr glas - fyddai'n golygu gwella ffyrdd presennol yr ardal.

Mae adroddiad y pwyllgor amgylchedd yn sôn am wahanol bryderon am gynigion y llywodraeth.

Mae'r rhain yn cynnwys cwestiynau a oedd y tri opsiwn dan sylw yn ddigon gwahanol i'w gilydd er mwyn cydfynd â gofynion cynllunio.

Roedd awgrym hefyd yn yr adroddiad nad oedd digon o sylw wedi ei roi i bryderon amgylchedd gafodd eu codi gan Gyfoeth Naturiol Cymru.

Yn ôl yr adroddiad mae yna hefyd bryder nad oedd yr amcangyfrifon am lefelau traffig gafodd eu defnyddio yn ddibynadwy.

Pryder am gost

Mae'r adroddiad hefyd yn codi cwestiynau am gost y prosiect newydd.

Ym mis Mehefin fe wnaeth cadeirydd y pwyllgor amgylchedd Alun Ffred Jones ysgrifennu at y Gweinidog Trafnidiaeth yn gofyn iddi ateb nifer o gwestiynau gan y pwyllgor am y cynigion.

Fe wrthododd hi a gwneud hynny gan fwrw ymlaen gyda'r cynllun i greu ffordd lliniaru i'r de o Gasnewydd rhwng Magwyr a Castleton.

Dywed yr adroddiad pe na bai Ms Cart yn gallu ateb y cwestiynau gafodd eu gofyn, yna bod hi'n bosib y bydd yn rhaid ailddechrau'r broses ymgynghori.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru y bydd y Gweinidog, "yn darllen yr adroddiad pan y bydd yn cael ei gyhoeddi wythnos nesaf."

Her gyfreithiol

Mae Cyfeillion y Ddaear Cymru wedi datgelu eu bod nhw'n ystyried her gyfreithiol i'r cynlluniau.

Mewn sgwrs gyda BBC Radio Wales dywedodd cyfarwyddwr y mudiad, Gareth Clubb fod, ganddyn nhw sail i wneud hynny gan na wnaeth y llywodraeth roi ystyriaeth lawn i'r opsiynau eraill.

"Rydym am gael sgwrs gydag ymgynghorwyr cyfreithlon a gweld pa seiliau all fod am her gyfreithiol,"meddai Mr Clubb.

"Rydym mor siomedig efo'r ffordd gafodd yr Asesiad Amgylcheddol Strategol a'r ymgynghoriad eu gwneud ac rydym yn credu bod nifer o wallau sylweddol yn y ffordd mae Llywodraeth Cymru wedi cynnal y broses.

"Oherwydd hynny rydym yn credu bod sail resymol ar gyfer gwneud her gyfreithiol."

Yn ôl Mr Clubb, mi fydd yn rhaid cyflwyno unrhyw her o fewn tri mis.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol