Sgitsoffrenia: Datblygiad 'chwyldroadol'

  • Cyhoeddwyd
DioddefFfynhonnell y llun, SPL
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r salwch yn gallu effeithio ar bobl o bob oed

Mae gwyddonwyr o Brifysgol Caerdydd yn dweud eu bod nhw wedi gwneud "naid anferth" tuag at ddeall achosion sgitsoffrenia.

Roedd dros 300 o wyddonwyr o 35 o wledydd yn rhan o'r ymchwil sydd wedi ei gyhoeddi yn Nature, ond o brifddinas Cymru roedd y gwaith yn cael ei arwain.

Fe lwyddon nhw i ganfod dros 100 o enynnau sy'n gwneud pobl yn fwy tebygol o ddioddef o'r salwch, gydag 83 o'r rhain yn cael eu darganfod am y tro cyntaf.

BETH YW SGITSOFFRENIA?

Mae sgitsoffrenia yn salwch difrifol sy'n effeithio ar dros 24 miliwn o bobl ledled y byd, a 220,000 yng Nghymru a Lloegr yn unig.

Gall ddatblygu'n gymharol gynnar ym mywyd rhywun gan effeithio ar y ffordd mae'r ymennydd yn gweithio, yn benodol sut mae'r dioddefwr yn meddwl, yn teimlo ac yn ymddwyn.

Mae symptomau'n cynnwys gweld pethau - a synau - sydd ddim yno, a chael teimlad bod rhywun yn eich erlyn.

Mae gwyddonwyr wedi bod yn ceisio darganfod pa enynnau sy'n gysylltiedig â'r salwch ers tro, er mwyn iddyn nhw gael gwell syniad o sut i fynd ati i ddarganfod triniaethau.

Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Athro O'Donovan yn arbenigwr ym maes geneteg seiciatryddol

Y dyn wnaeth arwain y gwaith oedd yr Athro Michael O'Donovan o Brifysgol Caerdydd, a ddywedodd: "Am lawer o flynyddoedd mae hi wedi bod yn anodd datblygu triniaethau newydd ar gyfer sgitsoffrenia oherwydd dealltwriaeth wael o fioleg yr afiechyd.

"Mae darganfod cynifer o gysylltiadau genetig newydd yn agor ffenest ar gyfer gwneud arbrofion newydd er mwyn datgloi bioleg y cyflwr ac, ry'n ni'n gobeithio, triniaethau newydd."

Roedd 80,000 o bobl yn rhan o'r ymchwil - eu hanner â sgitsoffrenia a'r hanner arall heb.

Cafodd samplau o'u DNA eu cymryd, ac wrth ddadansoddi'r gwahaniaeth fe lwyddwyd i ddarganfod 108 nodwedd enetig sy'n cael eu hystyried i fod yn 'ffactorau risg'.

Mae Dr Gerome Breen o King's College yn Llundain yn arbenigwr yn y maes dan sylw, oedd ddim yn rhan o'r ymchwil hwn, ac mae wedi disgrifio'r canfyddiadau fel rhai "chwyldroadol".

Ychwanegodd: "Mae gennym ni nawr swm enfawr o fioleg newydd i'w ymchwilio - set newydd sbon o syniadau allai arwain ar lawer o bosibiliadau o ran triniaethau.

"Mae hyn yn hollbwysig oherwydd dyw therapi gyffuriol i sgitsoffrenia heb newid yn sylweddol ers y 70au."