Sgitsoffrenia: Cymru'n arwain y ffordd

  • Cyhoeddwyd
sgitsoffrenia
Disgrifiad o’r llun,

Mae'r Cyngor Ymchwil Feddygol yn amcangyfrif bod un person ymhob cant yn cael eu heffeithio'n uniongyrchol gan y clefyd yn ystod eu bywydau

Mae ymchwil gan dîm sy'n cael ei arwain gan Brifysgol Caerdydd yn addo dangos "ffordd newydd" o edrych ar sgitsoffrenia.

Yn yr ymchwil mwyaf o'i fath sydd erioed wedi cael ei gynnal, fe edrychodd y gwyddonwyr ar sut mae celloedd yn newid mewn pobl â'r cyflwr.

Wrth weithio ar y cyd gyda thimau o Efrog Newydd, Massachusetts, Harvard a Chaergrawnt, fe astudiodd yr ymchwilwyr o Gaerdydd DNA 623 o bobl â sgitsoffrenia a'u rhieni.

Fe wnaethon nhw ddarganfod bod newidiadau genetig newydd - hynny yw, rhai oedd i'w gweld yn y bobl â sgitsoffrenia ond nid eu rhieni - yn chwarae rhan yn achosion y cyflwr a'u bod yn cael effaith ar fath penodol o broteinau sy'n gweithredu yn yr ymennydd.

Darganfod cysylltiadau

Mae'r proteinau hyn yn gyfrifol am addasu cryfder y cysylltiad rhwng rhai celloedd, sydd yn ei dro yn cael effaith ar ddatblygiad yr ymennydd, dysgu, cof a gwybyddiaeth.

Yn ôl un o arweinwyr yr ymchwil, yr Athro Mike Owen o Ganolfan Niwroseiciatreg, Geneteg a Genomeg Prifysgol Caerdydd, mae'r gwaith yn "cadarnhau pwysigrwydd y proteinau hyn, a rhai cysylltiedig".

Yn ogystal â darganfod sut mae'r genynnau diffygiol yn amharu ar y ffordd mae'r ymennydd yn gweithio, mae'r canfyddiadau hefyd yn awgrymu cysylltiad gydag achosion cyflyrau niwroddatblygiadol eraill gan gynnwys awtistiaeth.

Yn ôl yr Athro Mick O'Donovan, un arall o arweinwyr y prosiect, mae'r ymcwhil "yn awgrymu rhwyfaint o gysylltiad rhwng achosion sgitsoffrenia a rhai awtistiaeth ac anabledd deallusol,` ac mae hyn yn awgrymu efallai y gallai'r cyflyrau yma rannu mecanweithiau cyffredin, sy'n cryfhau'r ddadl dros ymchwil sy'n cyfuno'r canfyddiadau dros wahanol gyflyrau."

Ychwanegodd: "Rydym angen ymchwil sy'n ystyried geneteg, gwyddoniaeth wybyddol (cognitive), delweddu a ffynonellau eraill o wybodaeth, yn hytrach na dibynnu ar ddiffiniadau clinigol o gyflyrau seiciatryddol."

Bydd yr ymchwil yn cael ei gyhoeddi yn y cylchgrawn Nature, dolen allanol.

Mae'r Ganolfan Niwroseiciatreg, Geneteg a Genomeg yn bartneriaeth ar y cyd rhwng y Cyngor Ymchwil Feddygol, Prifysgol Caerdydd a'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Ymchwil Gofal Cymdeithasol ac Iechyd

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol