Awyren Caerdydd i Fôn yn tangyflawni?
- Cyhoeddwyd
Mae grŵp o Aelodau Cynulliad yn dweud eu bod yn pryderu am berfformiad y gwasanaeth awyren rhwng Ynys Môn a Chaerdydd.
Mae'r gwasanaeth wedi bod yn cael ei ddarparu ddwywaith y dydd rhwng dydd Llun a dydd Gwener ers 2007.
Citywing a Links Air sydd gan y cytundeb i ddarparu'r gwasanaeth eleni.
Daw'r cytundeb hwnnw i ben fis Rhagfyr, ac mae pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad yn dweud bod angen nifer o welliannau os yw'r gwasanaeth am barhau.
Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru'n gwario £1.2 miliwn ar y fenter bob blwyddyn.
Yn ôl y pwyllgor, mae angen marchnata gwell a dadansoddiad annibynnol o ddata teithwyr.
Gostwng 43%
Fe gafodd mwy na 65,000 o deithwyr eu cludo gan y gwasanaeth rhwng Mai 2007 ac Ebrill 2013, gan gostio oddeutu £9 miliwn i'r trethdalwr.
Mae nifer y teithwyr wedi gostwng 43% ers uchafbwynt y gwasanaeth yn 2008-09.
Fe ddywedodd cadeirydd y pwyllgor, Darren Millar:
"Mae'r pwyllgor yn parhau i fod yn bryderus fod y gwasanaeth yn tangyflawni yng nghyd-destun gwerth am arian i'r trethdalwr yng Nghymru.
"Mae'r diffyg data dibynadwy, annibynnol am niferoedd teithwyr - yn cynnwys y math o bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth - angen cael ei ddatrys
"Yn ogystal, mae'r pwyllgor yn credu fod angen ymgyrch farchnata gref... os ydi'r gwasanaeth am gario yn ei flaen gyda chefnogaeth nawdd cyhoeddus."
'Menter gostus'
Mewn ymateb i'r adroddiad, dywedodd y Democrat Rhyddfrydol Aled Roberts, sy'n AC dros ogledd Cymru ac yn aelod o'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus:
"Byddai'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymreig yn cael gwared ar y cymhorthdal gwastraffus hwn, sy'n llygru'r amgylchedd. Dyw'r fenter gostus hon ddim yn gwneud llawer i fynd i'r afael â'r problemau trafnidiaeth cyhoeddus rhwng y gogledd a'r de.
"Dyw pobl y gogledd ddim wedi elwa llawer o'r gwasanaeth.
"Mae cysylltiadau trên yn llawer pwysicach i bobl fy rhanbarth i na'r gwasanaeth hwn. Fe ddylai unrhyw arian cyhoeddus gael ei wario ar wella'r cysylltiadau rheilffordd rhwng y gogledd a Chaerdydd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd8 Mawrth 2013