Trafod technoleg yng nghefn gwlad Cymru
- Cyhoeddwyd
Bydd dyfodol technoleg a rhwydweithiau cyfathrebu Cymru yn cael eu trafod ar faes y Sioe Frenhinol yn ddiweddarach.
Bwriad y drafodaeth gan nifer o arbenigwyr yw darganfod sut y byddan nhw'n cymharu gyda systemau gorau Ewrop yn y blynyddoedd i ddod.
Undeb Amaethwyr Cymru (UAC) ac Ofcom sy'n cynnal y drafodaeth gyda phanel o arbenigwyr.
Dywedodd Is-Lywydd UAC, Glyn Roberts: "Hon ydi'r drydedd flwyddyn yn olynol i UAC gydweithio gyda Ofcom i gynnig platfform ar gyfer trafod materion yn ymwneud â thechnoleg a chyfathrebu yng nghefn gwlad Cymru.
"Mae UAC wedi ymgyrchu'n ddi-flino dros y blynyddoedd i geisio gwella'r gwasanaeth band eang ac rydym ni wedi cefnogi'r cynllun Cyflymu Cymru o'r cychwyn cyntaf.
'Angenrheidiol'
"Rydym ni'n credu bod gwasanaeth band eang cyflym a dibynadwy yn hanfodol ar gyfer datblygu cymunedau cefn gwlad.
"Mae hi bellach yn angenrheidiol i ffermwyr o bob oed i ddefnyddio technoleg ar gyfer gweithredu eu busnes arlein, ac felly, mae angen y cyswllt cyflymaf posibl.
Ychwanegodd ei bod hi'n "amhosibl gorbwysleisio pwysigrwydd gwneud mwy i helpu cymunedau gwledig a busnesau amaethyddol drwy ddarparu gwasanaeth sy'n gwbl hanfodol ar gyfer rhedeg busnes yn yr unfed ganrif ar hugain".
Bydd golygydd gwleidyddol ITV, Adrian Masters, AS Aberconwy Guto Bebb, cyfarwyddwr Cyflymu Cymru BT Ed Hunt, AC Ceredigion Elin Jones, Dafydd Wyn Thomas o'r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd Xwavia, a Chyfarwyddwr Ofcom Cymru Rhodri Williams yn cymryd rhan yn y drafodaeth.
Gwasanaeth hanfodol
Yn ôl cyfarwyddwr Cyflymu Cymru BT Ed Hunt mae'r drafodaeth yn un bwysig iawn i gymunedau cefn gwlad Cymru.
"Mae consensws cyffredinol bod gallu cyfathrebu'n gyflym a dibynadwy yn hanfodol i alluogi unigolion a busnesau i gymryd rhan yn llawn yn yr oes ddigidol.
"Mae gwasanaeth band eang yn cael ei ystyried fel y pedwerydd gwasanaeth hanfodol (ar ôl dŵr, nwy a thrydan) - gan gydnabod hyn mae llywodraethau San Steffan a Bae Caerdydd wedi buddsoddi'n sylweddol er mwyn sicrhau darpariaeth o wasanaeth band eang cyflym.
"Bydd y dasg o osod cannoedd o filltiroedd o wifrau opteg ffibr ar draws Cymru yn dod i ben erbyn y gwanwyn 2016, ond hyd yn oed ar ôl cwblhau'r dasg honno, bydd 4% o adeiladau yng Nghymru'n parhau gyda chyswllt rhyngrwyd llai na 24 megabit yr eiliad, ac mewn rhai achosion, heb unrhyw fath o gyswllt â'r rhyngrwyd.
"Elfen bwysig arall o wasanaethau cyfathrebu modern yw gwasanaeth ffôn symudol. Pan drefnwyd arwerthiant yr hawliau 4G gan Ofcom ar ran y llywodraeth, roedd hi'n ofynnol ar i'r contractiwr llwyddiannus i ddarparu gwasanaeth ar gyfer 95% o Gymru."