Arbenigwyr o blaid cyflwyno isafswm pris alcohol

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford
Disgrifiad o’r llun,

Mae Mark Drakeford yn awyddus i gymryd camau i leihau gor-yfed

Mae grŵp annibynnol Llywodraeth Cymru ar gamddefnydd sylweddau wedi dweud eu bod nhw o blaid cyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol.

Mae'r llywodraeth yn ystyried gorfodi gwerthwyr i godi o leiaf 50c i bob uned o alcohol mewn diod.

Y prif resymau dros wneud hyn fyddai i geisio lleihau'r niwed sy'n cael ei wneud i iechyd pobl a'r gymuned gan or-yfed.

Mae arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad Andrew RT Davies wedi dweud bod angen bod yn ofalus gyda mesur o'r fath i sicrhau nad yw'n effeithio ar bobl ar incwm isel.

'Peryglus a niweidiol'

Mae'r Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau yn cynnwys arbenigwyr ym maes iechyd cyhoeddus sy'n rhoi cyngor i'r gweinidog iechyd.

Yn ôl y panel mae tua 5,000 o bobl yn marw bob blwyddyn yng Nghymru o ganlyniad i gamddefnyddio alcohol.

Dywedodd Kyrie Ll James, Cadeirydd y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau:

"Mae modd osgoi problemau iechyd a chymdeithasol yn sgil alcohol. Mae tystiolaeth ac ymchwil arbenigol yn cadarnhau bod diodydd rhatach yn cael eu ffafrio gan y rhai sy'n yfed mewn modd peryglus a niweidiol.

"Hefyd, byddai isafswm pris fesul uned yn cael effaith anghymesur o ran targedu yfed problemus, lleihau problemau alcohol a sicrhau buddion iechyd a buddion eraill i unigolion a'n cymunedau yn eu cyfanrwydd.

"Barn APoSM yw y byddai isafswm pris uned yn ddull effeithiol o ymdrin â niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol."

Mae'r gweinidog iechyd Mark Drakeford wedi croesawu casgliadau'r panel gan ddweud bod "tystiolaeth ddiamheuol fod pris alcohol yn bwysig..."

"Bydd isafswm pris yn gwneud cyfraniad cryf i rwystro gorddefnydd a chamddefnydd alcohol a lleihau salwch sy'n gysylltiedig ag alcohol. Mae adroddiad y panel yn cefnogi'r safbwynt hwn.

"Fe fyddwn ni nawr yn datblygu'n cynigion ymhellach gyda'r bwriad o gyflwyno'r Mesur Iechyd Cyhoeddus yn gynnar yn 2015".

Bil Iechyd y Cyhoedd

Yn ogystal â chyflwyno isafswm pris ar gyfer uned o alcohol, mae'r bil yn cynnig:

  • Cyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus i ateb pryderon bod y cynhyrchion yn normaleiddio ysmygu ac yn tanseilio'r gwaharddiad ar ysmygu;

  • Sefydlu cofrestr manwerthwyr tybaco fydd yn eu gorfodi i hysbysu awdurdodau os ydynt yn gwerthu tybaco, gyda chosbau llymach i'r rhai sy'n gwerthu i bobl dan 18 oed.

'Angen gofal'

Disgrifiad o’r llun,

Ni fyddai'n deg cyflwyno mesur sydd ond yn effeithio ar un elfen o gymdeithas, yn ôl Mr Davies

Ond nid pawb sydd o'r farn mai isafswm pris yw'r ffordd orau i fynd i'r afael â'r broblem.

Dyw Andrew RT Davies ddim yn credu y byddai'n gallu "atal camddefnydd o alcohol ar ben ei hun" ond y gallai fod yn un opsiwn "fel rhan o strategaeth ehangach, gan gynnwys gwell addysg am effaith niweidiol gor-yfed".

Ychwanegodd Mr Davies: "Mae'n hollbwysig fod y mesurau'n cael eu hystryried yn ofalus i wneud yn siŵr eu bod nhw ddim yn effeithio ar bobl sy'n ennill cyflog isel...

"Does gan Lywodraeth Cymru ddim hawl i wneud rhagdybiaethau ynglŷn ag os ydi unigolyn yn defnyddio alcohol yn gyfrifol wedi ei selio'n unig ar eu cefndir cymdeithasol.

"Felly ni ddylai unrhyw fesurau gael eu hanelu at bobl ar gyflog isel yn unig."