Mesurau ar alcohol ac e-sigaréts

  • Cyhoeddwyd
E-sigaretFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Fe leisiwyd pryderon bod e-sigaréts yn 'normaleiddio' ysmygu

Fe allai Cymru fod yr unig wlad ym Mhrydain i gyfyngu'r defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus dan do, dan gynlluniau newydd sydd wedi'u cyhoeddi gan Lywodraeth Cymru.

Mae'r papur gwyn, dolen allanol yn cynnwys cyfreithiau arfaethedig newydd sydd hefyd yn cynnwys y bwriad i gyflwyno isafswm pris ar gyfer alcohol.

Wrth gyflwyno'u cynlluniau dywedodd Llywodraeth Cymru ei fod yn ceisio mynd i'r afael â "rhai o heriau mwyaf iechyd y cyhoedd yng Nghymru".

Disgrifiwyd y cynigion gan y Gweinidog Iechyd Mark Drakeford fel "cynigion deddfwriaethol radical", ac maen nhw'n cynnwys:-

  • Cyflwyno isafswm pris alcohol o 50c yr uned i leihau'r niwed sy'n gysylltiedig â gorddefnydd a chamddefnydd alcohol;

  • Cyfyngu ar y defnydd o e-sigaréts mewn mannau cyhoeddus i ateb pryderon bod y cynhyrchion yn normaleiddio ysmygu ac yn tanseilio'r gwaharddiad ar ysmygu;

  • Sefydlu cofrestr manwerthwyr tybaco fydd yn eu gorfodi i hysbysu awdurdodau os ydynt yn gwerthu tybaco, gyda chosbau llymach i'r rhai sy'n gwerthu i bobl dan 18 oed.

'Lleihau risg'

Dywedodd Mr Drakeford: "Cymryd camau cadarn ar y cyd i fynd i'r afael â phryderon ynghylch iechyd y cyhoedd yw un o'r cyfraniadau cryfaf y gall llywodraeth eu gwneud i wella lles a llesiant ei phoblogaeth.

Disgrifiad o’r llun,

Byddai isafswm pris yn targedu yfwyr trwm ac yfwyr ifanc yn benodol

"Mae alcohol a thybaco yn cyfrannu at lawer o salwch sy'n berygl i fywyd ac maent yn achosi llawer o'r anghydraddoldebau hirhoedlog mewn iechyd.

"Mae tystiolaeth i ddangos bod pris alcohol yn bwysig. Nid cyd-ddigwyddiad yw'r ffaith bod marwolaeth a salwch yn sgil alcohol wedi codi'n sylweddol wrth i alcohol ddod yn fwyfwy fforddiadwy.

"Bydd isafswm pris fesul uned yn gwneud cyfraniad pwysig o ran atal gorddefnydd a chamddefnydd alcohol a lleihau salwch cysylltiedig ag alcohol.

"Dwi hefyd yn pryderu am effaith e-sigaréts o ran gorfodi gwaharddiad smygu Cymru. Dyna pam ein bod ni'n cynnig cyfyngu ar eu defnydd mewn mannau cyhoeddus caeedig.

"Mae e-sigaréts yn cynnwys nicotin, sy'n hawdd mynd yn gaeth iddo, a dwi am leihau'r risg bod cenhedlaeth newydd yn mynd yn gaeth i'r cyffur hwn."

'Cyfle euraid'

Un o gynigion eraill y papur gwyn yw y dylid ei gwneud yn drosedd i anfon cynnyrch tybaco sy'n cael ei archebu ar-lein i berson ifanc dan 18 oed, hyd yn oed os mai oedolyn archebodd y nwyddau.

Mae bwriad hefyd i sefydlu cofrestr genedlaethol i fusnesau sy'n darparu gwasanaethau cosmetig fel tyllu clustiau a rhannau eraill o'r corff neu datŵs.

Daeth croeso i'r papur gwyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, a dywedodd eu prif weithredwr yr Athro Peter Bradley:

"Rydym yn credu bod mesur iechyd cyhoeddus newydd yn gyfle euraid i wella iechyd y boblogaeth.

"O edrych ar y papur gwyn rydym yn arbennig o falch o weld Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar brisio unedau alcohol ac e-sigarets.

"Mae isafswm prif alcohol yn fesur sydd wedi ei dargedu ar yfwyr trwm ac yfwyr ifanc - y ddau grŵp sy'n diodde'r niwed gwaethaf gan alcohol.

"Y llynedd fe wnaethon ni wneud datganiad ar e-sigarets oedd yn awgrymu y dylid eu gwahardd mewn mannau cyhoeddus i sicrhau nad yw eu defnydd yn tanseilio'r holl waith da ddaeth o'r gwaharddiad ar ysmygu nac yn normaleiddio'r arfer.

"Byddwn yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru wrth lunio'r mesur iechyd cyhoeddus fel y gallwn gyrraedd ein nod o gael Cymru iachach."

Daeth croeso hefyd i'r papur gwyn o gyfeiriad Coleg Brenhinol y Ffisegwyr (Cymru). Dywedodd Dr Alan Rees, dirprwy lywydd y Coleg Brenhinol:

''Mae salwch difrifol yn costio miliynau i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru pob blwyddyn. Mae oddeutu hanner oedolion Cymru yn derbyn triniaeth am salwch fel pwysau gwaed uchel, problemau gyda'r galon, arthritis, salwch yr ysgyfaint, clefyd siwgr neu broblemau iechyd meddwl.

''Rydym hefyd yn gwybod fod tlodi yn cael effaith difrifol ar iechyd...Mae'n rhaid i fuddsoddiad mewn atal salwch fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a dyna pam yr wyf yn croesawu'r Papur Gwyn.''

Bydd ymgynghoriad yn dechrau'n syth ar y papur gwyn, dolen allanol, ac yn dod i ben ar Fehefin 24, ac fe ddywed Llywodraeth Cymru eu bod yn ceisio safbwyntiau ystod mor eang â phosibl o bobl am y cynigion.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol