Arolygiad Jasmine: Apêl am fwy o wybodaeth

  • Cyhoeddwyd
Dr Prana Das
Disgrifiad o’r llun,

Cafodd Dr Prana Das anafiadau i'w ymennydd oedd yn golygu nad oedd yn medru sefyll ei brawf

Mae teuluoedd pobl hŷn sy'n honni fod eu hanwyliaid wedi cael eu hesgeuluso mewn cartrefi gofal yn apelio am dystion newydd er mwyn ceisio mynd at wraidd yr hyn ddigwyddodd.

Cynhaliwyd ymgyrch o'r enw 'Operation Jasmine' i ymchwilio i'r esgeulustod honedig mewn 6 o gartrefi gofal ar draws de Cymru rhwng 2005 a 2009.

Daeth achos llys yn erbyn perchennog dau o'r cartrefi gofal ar y pryd, Dr Prana Das i ben wedi iddo ddioddef anafiadau i'r ymennydd olygodd nad oedd modd iddo sefyll ei brawf.

Cafodd adolygiad annibynnol ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr 2013, dan arweiniad Dr Margaret Flynn.

Cafodd Dr Flynn y dasg o ganfod pa wersi y gellid eu dysgu o'r achosion o gam-drin honedig mewn cartrefi gofal ar draws de Cymru.

Mae hi wedi bod yn siarad â theuluoedd y rhai a gafodd eu heffeithio, Heddlu Gwent, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru a nifer o gyrff eraill oedd yn rhan o'r ymchwiliad gwreiddiol.

Dim ond 8 o'r 100 o deuluoedd y dioddefwyr honedig sy'n cael eu cyfweld fel rhan o'r ymchwiliad. Mae llawer yn dweud y byddai'n peri gormod o loes iddyn nhw i ddwyn i gof sut y bu eu hanwyliaid farw.

Sefydlwyd yr adolygiad ar ôl i grŵp ymgyrchu 'Cyfiawnder i Jasmine' ymladd am ymchwiliad cyhoeddus llawn ar ôl i'r achos llys gael ei ollwng.

Annog cyn-weithwyr i siarad

Mae rhai o blant y 100 o ddioddefwyr posibl yn annog cyn-weithwyr y cartrefi i gynorthwyo'r ymchwiliad, yn anysbys os oes angen.

Mae BBC Cymru yn deall y gallai'r adolygiad godi cwestiynau difrifol am allu'r awdurdodau i gau cartrefi gofal sy'n methu cynnal y safonau disgwyliedig.

Mae Heddlu Gwent wedi gwrthod cymryd rhan yn yr adolygiad wedi iddyn nhw dderbyn cyngor cyfreithiol y gallai datgelu mwy o wybodaeth effeithio ar unrhyw achos llys yn y dyfodol.

Deallir y byddai'r heddlu wedi dymuno cymryd rhan lawnach yn yr adolygiad ac maen nhw hefyd wedi cyfarfod â rhai o deuluoedd y dioddefwyr honedig i egluro'r sefyllfa.

Wrth gyhoeddi'r ymchwiliad annibynnol nôl ym mis Rhagfyr 2013, dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones, nad oedd am weld digwyddiadau degawd yn cael eu hailadrodd.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Mae adolygiad Operation Jasmine sy'n cael ei gynnal gan Margaret Flynn wedi ceisio ymgysylltu â theuluoedd a phartïon eraill sydd â chysylltiadau â'r digwyddiadau a arweiniodd at lawnsio 'Operation Jasmine.'

Croesawu'r adolygiad annibynnol

Bu ymgysylltu helaeth rhwng ystod eang o bobl yn ystod yr adolygiad hyd yma. Cafwyd mewnbwn helaeth gan deuluoedd, gweithwyr gofal, unrhyw staff oedd yn ymwneud a'r cartrefi gofal penodol, ac rydym yn parhau i groesawu unrhyw un sydd â gwybodaeth bellach i gysylltu."

Dywedodd Comisiynydd Pobl Hyn Cymru, Sarah Rochira: "Fel Comisiynydd, rwyf wedi croesawu'r adolygiad annibynnol yma dan arweiniwyd Margaret Flynn yn gryf.

"Rwyf wedi cyfarfod teuluoedd rhai o'r dioddefwyr ac maen nhw wedi dweud wrtha i eu bod eisiau atebion am yr hyn a ddigwyddodd i'w hanwyliaid, yn ogystal â sicrwydd na allai hyn fyth ddigwydd eto."