Ymgyrch Jasmine: Adolygiad newydd

  • Cyhoeddwyd
Carwyn
Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd Mr Jones fod amgylchiadau'r achos yn "anarferol"

Mae'r prif weinidog wedi cyhoeddi adolygiad o'r honiadau o gam-drin hanesyddol mewn cartrefi gofal yng Ngwent.

Bydd yr adolygiad yn cael ei gynnal gan Dr Margaret Flynn a bydd yn edrych ar y digwyddiadau oedd yn ymwneud ag Ymgyrch Jasmine er mwyn penderfynu a oes gwersi i'w dysgu o fewn y sector ofal cymdeithasol yn bennaf.

Daeth Ymgyrch Jasmine, ymchwiliad yr heddlu gostiodd £11m, i ben yn gynharach yn y flwyddyn a hynny heb achos llys.

Roedd yn ymwneud â chyhuddiadau fod pobl wedi cael eu cam-drin mewn chwech cartref gofal - nid oedd yn bosib i'r meddyg oedd yn berchen ar ddau ohonyn nhw sefyll ei brawf oherwydd rhesymau meddygol.

'Ar ffeil'

Disgrifiad o’r llun,

Dyw Mr Das ddim yn medru wynebu achos oherwydd ei gyflwr meddygol

Cafodd yr achos ei roi "ar ffeil" ym mis Mawrth, sy'n golygu y gallai achos fynd yn ei flaen petai Dr Prana Das yn gwella o'i anafiadau.

Mae mewn coma yn sgil ymosodiad ddigwyddodd pan oedd lladrad yn ei dŷ.

Fe fynegodd rhai Aelodau Cynulliad eu siom wedi iddyn nhw glywed datganiad Carwyn Jones a dweud eu bod nhw'n credu bod angen cynnal ymchwiliad llawn.

Dywedodd Mr Jones ei fod wedi penderfynu mai adolygiad fyddai'r ffordd iawn ymlaen wedi iddo ystyried yr opsiynau yn ofalus.

"Roedden ni wastad wedi bwriadu adolygu'r gwersi gafodd eu dysgu yn sgil yr achos difrifol a thrasig hwn wedi i'r camau cyfreithiol ddod i ben," meddai.

"Ond oherwydd yr amgylchiadau anghyffredin rydym yn darganfod ein hunain ynddyn nhw rydym wedi gorfod ystyried opsiynau eraill.

"Fe wnes i felly ofyn am gyngor a chanllawiau gan nifer o ffynonellau gwahanol, gan gynnwys swyddogion cyfreithiol ...

"Rwy'n cydnabod fod llawer wedi cael ei wneud o fewn y sector yn barod i ddysgu'r gwersi o'r hyn ddigwyddodd."

'Achos trasig'

Dywedodd ei fod yn disgwyl i'r rhai sy'n cynnal yr adolygiad siarad gyda theuluoedd y rheiny wnaeth ddioddef, yr heddlu, pobl broffesiynol eraill oedd ynghlwm wrth yr achos a rheoleiddwyr.

Bydd Dr Flynn, sydd ar hyn o bryd yn cadeirio Bwrdd Diogelu Oedolion Sir Gaerhirfryn, yn gyfrifol am arwain yr adolygiad fydd yn adrodd yn ôl erbyn diwedd 2014.

Dywedodd William Graham o'r Ceidwadwyr: "Rydw i ar ran y Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith eich bod wedi penderfynu ei bod hi'n bwysig iawn dysgu'r gwersi o beth oedd yn achos trasig ac yn cytuno fod adolygiad annibynnol yn angenrheidiol.

"Bydd llawer yn gweld canlyniad yr ymchwiliad fel un anfoddhaol ond gan gydnabod fod Heddlu Gwent wedi gweithio'n effeithiol, a cawn weld pa argymhellion wnaiff godi.

"Rydym angen darganfod pam ei bod hi wedi cymryd saith mlynedd i orffen yr ymchwiliad yma."

'Gadael i lawr'

Dywedodd Lindsay Whittle o Blaid Cymru: "Roedd pryder am y cwmni hwn wedi bodoli ers llawer o flynyddoedd ac mae'n glir fod teuluoedd a phreswylwyr wedi cael eu gadael lawr gan y system - system gymhleth iawn ddylai fod yn syml.

"Mae'n ddrwg gen i fod £11 miliwn o arian yr heddlu a gwasanaethau cymdeithasol wedi cael ei wastraffu, yn ôl pob tebyg os na fydd yr unigolion sy'n gyfrifol yn wynebu cyfiawnder - ond efallai bydd amser am hynny eto."

Dywedodd y prif weinidog ei fod yn awyddus na fyddai'r adolygiad yn effeithio ar yr ymchwiliad troseddol gan y gallai hynny achosi problemau.

Dywedodd Aled Roberts ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r digwyddiadau honedig sy'n gysylltiedig â'r hyn ddigwyddodd mewn nifer o gartrefi nyrsio yn ne Cymru yn gwbl erchyll.

"Dwi ddim ond yn gobeithio na fydd methiannau tebyg yn digwydd eto ... mae angen i ni gael gwybod sut bod cyfres o fethiannau o'r fath yn cael eu caniatáu ... a dysgu oddi wrth fethiannau blaenorol yn y system fel y gall mesurau yn cael eu rhoi ar waith i atal trasiedïau rhag digwydd eto."