Band eang 'mewn 100 o ardaloedd'

  • Cyhoeddwyd
band eang ffibr-optig cyflymFfynhonnell y llun, BT
Disgrifiad o’r llun,

Nod llywodraeth Cymru yw gwella cysylltiadau ffibr-optig mewn 12 sir yng Nghymru dros y flwyddyn nesaf.

Yn ôl llywodraeth Cymru, mae band eang ffeibr cyflym ar gael mewn 100 o ardaloedd cyfnewidfa ffôn lle nad oes darparwyr masnachol ar gael i ddarparu'r gwasanaeth.

Mae hyn yn golygu y gall 190,000 o adeiladau ychwanegol gael mynediad i'r rhyngrwyd yn gyflymach.

Mae gan gynllun Cyflymu Cymru darged fod 96% o gartrefi a busnesau Cymru yn derbyn gwasanaeth o leiaf 24MB bob eiliad erbyn 2016.

Mae'r cynllun yn bartneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru a BT, er mwyn darparu gwasaneth i 12 o siroedd Cymru.

Y siroedd yw Abertawe, Blaenau Gwent, Bro Morgannwg, Caerffili, Casnewydd, Ceredigion, Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Rhondda Cynon Taf ac Ynys Môn.

Dywedodd Ofcom yr wythnos ddiwethaf fod darpariaeth band eang cyflym Cymru yn gwella, ond fod dal gwaith i ddal i fyny gyda gweddill y DU.

Dywedodd Ofcom fod y gyfran o safleoedd yng Nghymru sydd yn derbyn band eang cyflym iawn wedi codi o 48% i 58% mewn blwyddyn, o'i gymharu â ffigwr y DU sy'n 78%.