Nato: Annog pobl Caerdydd i ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus
- Cyhoeddwyd
Mae Cyngor Caerdydd wedi amddiffyn penderfyniad i gynnal digwyddiadau gydag arweinwyr Nato yn y ddinas er i nifer gwyno am broblemau traffig ddydd Llun.
Dywedodd y cyngor fod Uwchgynhadledd Nato, sy'n cael ei chynnal rhwng 3-5 Medi, yn "gyfle ardderchog i ddangos de-ddwyrain Cymru i weddill y byd".
Bore Llun roedd oedi ar rai o'r ffyrdd prysuraf yng nghanol y ddinas ac oedi ar wasanaethau trafnidiaeth cyhoeddus.
Mae gyrwyr tacsi wedi dweud wrth BBC Cymru fod y cyfyngiadau yn achosi "anrhefn llwyr" ac oedi eisoes.
Mae'r cyngor wedi dweud eu bod nhw am barhau i weithio i leihau'r effaith ar fusnesau a phobl leol.
Ffens diogelwch
Roedd yr oedi oherwydd i ffens diogelwch gael ei chodi o amgylch yr adeiladau fydd yn cael eu defnyddio ar gyfer digwyddiadau Nato.
Yn ôl y cyngor, bydd gwaith codi'r ffens wedi gorffen erbyn 22 Awst ac ar ôl hynny bydd cyfyngiadau traffig mewn grym tan 12 Medi.
Bydd system un ffordd o amgylch rhai o ffyrdd y ddinas.
Bore Llun roedd rhai o ffyrdd prysuraf y brifddinas ar gau i gerbydau a ffensys yn rhwystro'r lonydd.
Roedd nifer o deithwyr wedi trydar bod tagfeydd yn ardal Manor Way a Chyfnewidfa Gabalfa ar y ffordd i mewn i'r ddinas o gyfeiriad y gogledd.
Trydarodd Bws Caerdydd fod oedi ar wasanaethau oherwydd tagfeydd.
'Anghenion diogelwch'
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerdydd: "Mae'r ffens yn cael ei chodi oherwydd yr anghenion diogelwch unigryw ac nid y cyngor sydd wedi penderfynu hyn.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i leihau'r effaith ar fusnesau, trigolion a'r rheiny sy'n darparu trafnidiaeth."
Ychwanegodd: "I osgoi tagfeydd, rydyn ni'n cynghori pawb sy'n teithio mewn car fel arfer i ystyried trafnidiaeth cyhoeddus neu ddefnyddio'r cyfleusterau Parcio a Theithio yn Lecwydd neu Pentwyn.
"Dylai'r rheiny mewn ceir adael mwy o amser ar gyfer eu siwrne."
Cyfyngiadau Caerdydd
O'r gogledd bydd un lôn ar Heol y Gogledd o'r gyffordd gyda Heol Column, yr holl ffordd drwy ganol y ddinas ar Ffordd y Brenin, Heol y Castell hyd at y gyffordd gyda Heol y Gadeirlan.
O'r gorllewin bydd dwy lôn ar agor o Heol Bontfaen (Ddwyreiniol) i ganol y ddinas, ond ni fydd unrhyw un yn cael troi i'r dde i lawr Heol y Porth, o Ffordd y Brenin i Heol y Brodyr Llwydion ac o Ffordd y Brenin/Heol y Gogledd i Boulevard de Nantes.
O'r dwyrain un lôn fydd ar agor ar hyd Boulevard de Nantes, a bydd rhaid i bob cerbyd sy'n ymuno â'r ffordd yng nghanol y ddinas droi i'r chwith yn unig.
Mae'r holl fanylion ar wefan Cyngor Caerdydd, dolen allanol.