Canlyniadau TGAU: Cymru'n cau'r bwlch gyda gweddill Prydain

  • Cyhoeddwyd
canlyniadau arholiadau
Disgrifiad o’r llun,

Mae miloedd o ddisgyblion ysgol yn derbyn canlyniadau eu arholiadau TGAU fore Iau

Ar y cyfan, mae disgyblion TGAU Cymru wedi llwyddo i gau'r bwlch gyda gweddill Prydain.

Mae canlyniadau heddiw yn dangos fod cynnydd yng nghanran y rhai enillodd raddau A*-C er bod y nifer a basiodd wedi gostwng ychydig.

Roedd cwymp sylweddol yn y nifer gafodd raddau boddhaol mewn Iaith Saesneg.

Y llynedd llwyddodd 19.2% o ddisgyblion Cymru i ennill gradd A neu A* yn eu harholiadau TGAU, ffigwr sydd wedi codi 0.2% eleni.

Mae cynnydd o bron i 1% ymhlith y rhai enillodd radd A*-C.

Y PYNCIAU CRAIDD

Cymraeg Iaith Gyntaf A*-C - cynnydd o 1.1%

Gwyddorau A*-C - cynnydd ymhob agwedd

Mathemateg A*-C - cwymp o 2.2%

Saesneg A*-C - cwymp o 1.6%

O ganlyniad, mae'r bwlch rhwng Cymru a gweddill Prydain wedi cau o 0.2%.

O fewn hynny, fodd bynnag, mae yna le i boeni.

Mae'r graddau i lawr 1.6% ymhlith y rhai gafodd A* i C yn yr arholiad Iaith Saesneg, yn dilyn cyflwyno cymhwyster newydd, unigryw i Gymru.

Roedd cwymp hefyd yng ngraddau'r pynciau Ffrangeg, Almaeneg, Sbaeneg a Mathemateg.

Ar y llaw arall, roedd cynnydd ymhob un o'r gwyddorau.

Yr ymateb

Fe ddywedodd Gweinidog Addysg Cymru, Huw Lewis fod y canlyniadau yn "galonogol iawn."

Ychwanegodd fod cynlluniau ar droed i wella canlyniadau mathemateg, a dywedodd y bydd llywodraeth Cymru'n lansio TGAU newydd mewn mathemateg ym mis Medi 2015.

Roedd llefarydd addysg y Ceidwadwyr Cymreig, Angela Burns yn feirniadol o lywodraeth Cymru, gan ddweud fod "pryder yn parhau" am safon perfformiad y system addysg yng Nghymru.

Dywedodd AS Plaid Cymru Hywel Williams fod angen i'r system ennyn mwy o hygrededd.

"Mae gan lywodraeth Cymru lawer o waith ar ôl i'w wneud i godi safonau," meddai.

NUT Cymru'n canmol

Wrth nodi ei sylwadau ar y canlyniadau eleni, dywedodd Owen Hathway, Swyddog Polisi NUT Cymru:

"Dylai myfyrwyr, athrawon a rhieni gael eu canmol am y canlyniadau trawiadol hyn.

"Mae'r ffaith fod y ganran o raddau A* i A ac A* i C wedi codi eleni o gymharu â chanlyniadau 2013 yn newyddion gwych ac yn destament i'r gwaith caled, yn aml yn uwch a llawer thu hwnt i'w cylch gwaith, sy'n digwydd mewn ysgolion ar draws Cymru.

"Mae athrawon yn haeddu canmoliaeth arbennig am sicrhau safonau mor uchel yn sgil y ffaith y bu newidiadau amrywiol i gymwysterau TGAU yn ystod y flwyddyn yn ogystal â'r cyffro a achoswyd gan y methiant yn dilyn yr arholiadau Saesneg ym mis Ionawr.

"Nid yw hon wedi bod y flwyddyn hawsaf ar athrawon na disgyblion, ond eto maent wedi cyflawni'r gyfradd lwyddo A * i C uchaf a gyflawnwyd yng Nghymru erioed."

Ychwanegodd Owen Hathway:

"Er ei bod yn anodd gwneud cymariaethau dilys rhwng Cymru a Lloegr, a bydd yn anoddach byth yn y dyfodol, mae'n gadarnhaol bod y bwlch rhwng y graddau A * -C wedi lleihau."