Miloedd yn aros am ganlyniadau TGAU
- Cyhoeddwyd
Mae miloedd o ddisgyblion yn derbyn eu canlyniadau TGAU heddiw.
Y llynedd mi lwyddodd disgyblion Cymru i gau'r bwlch gyda rhannau eraill o Brydain yn achos graddau uchaf ond mae 'na bryderon eleni ar ôl canlyniadau is na'r disgwyl mewn rhai profion ym mis Ionawr.
Eleni, am y tro cyntaf mae yna arholiad Iaith Saesneg sy'n unigryw i Gymru.
Roedd disgyblion yn ei sefyll am y tro cyntaf ym mis Ionawr ond cwynodd dros 100 o benaethiaid ysgolion fod y canlyniadau'n is na'r disgwyl.
Yn bryderus
Dywedodd y Gweinidog Addysg, Huw Lewis, na fyddai disgyblion ar eu colled ac y dylai canlyniadau eleni gymharu â rhai'r llynedd.
Ond yn ôl undebau, mae athrawon yn eithriadol o bryderus.
Fe ddywedodd Robin Hughes o undeb ASCL Cymru: "Mae'r system sy'n darparu canlyniadau TGAU i'n pobl ifanc ni yng Nghymru dan brawf.
"Mae penaethiaid ac athrawon yn fwy pryderus nag arfer am y canlyniadau TGAU eleni. Mae 'na reswm da am hynny.
"Mae'r TGAU yn bwysig i'n pobl ifanc ni ond maen nhw hefyd yn bwysig o ran rhoi gwybod sut mae ysgolion yn perfformio."
'Marcio llym'
Roedd Llywodraeth Cymru wedi dweud bod pryder am ganlyniadau rhai profion Iaith Saesneg fis Ionawr, ond bod disgwyl i'r canlyniadau llawn gymharu â rhai'r llynedd "os nad oes rhesymau anorfod" i'r gwrthwyneb.
Ac roedd y Gweinidog Addysg wedi dweud bod y "marcio wedi bod yn llym" ond nad oedd yn credu bod angen ail-farcio.
Fe ddywedodd llefarydd ar ran y llywodraeth fod pawb oedd yn rhan o'r broses gymwysterau wedi gweithredu ar adolygiad o'r canlyniadau hynny.
Roedd bwrdd arholi CBAC - wnaeth alw am ail-farcio rhai papurau Saesneg ym mis Ionawr - wedi dweud eu bod nhw wedi defnyddio "y dull canlyniadau cymaradwy a nodi ein bod yn hyderus ein bod wedi marcio a dyfarnu'n unol â gofynion y rheoleiddwyr."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd19 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd6 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd22 Awst 2013