Nato: Tywysog Cymru yn dathlu

  • Cyhoeddwyd
tywysog siarl
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y Tywysog yn cynnal y noson i ddathlu Cymreictod

Bydd y Tywysog Siarl yn gwahodd arweinwyr byd a phobl leol i ymuno mewn digwyddiad i ddathlu 'y gorau o Gymru' ar noson agoriadol uwch-gynhadledd Nato fis Medi.

Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal gan y tywysog ar ran llywodraeth y DU yng ngwesty'r Celtic Manor, Casnewydd ar nos Iau, 4 Medi.

Yn ôl y llywodraeth, bydd y noson yn gyfle i ddiolch i bobl o bob rhan o Gymru am eu cymorth wrth baratoi'r digwyddiad mwyaf o'i fath yn y DU.

Fe fydd Prif Weinidog y DU, David Cameron, Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru Stephen Crabb yn ymuno â'r Tywysog, lle fydd gwesteion yn cael cyfle i wrando ar gerddoriaeth Gymreig a blasu bwydydd o Gymru.

Bydd cynrychiolwyr o gynghorau lleol, busnesau lleol, plant ysgol yn ogystal ag enillwyr gwobrau Dewi Sant a'r Point of Light yn cael eu gwahodd i'r noson.

Dywedodd Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Stephen Crabb: "Mae Cymru yn wlad gadarnhaol, allblyg, sy'n falch o gynnal uwch-gynhadledd Nato.

"Mae'r digwyddiad yma sy'n cael ei gynnal gan y tywysog yn gyfle i werthu Cymru i'r byd a chyfle i ni ddiolch i'r gymuned am eu croeso cynnes."

Mae 60 o arweinwyr o'r holl wledydd sy'n perthyn i Nato a'u cynghreiriaid wedi cael eu gwahodd i ddiwrnod cyntaf yr uwch-gynhadledd.