Iechyd: Unedau brys yn methu targed
- Cyhoeddwyd
Mae'r gwasanaeth iechyd wedi methu eu targed ar gyfer yr amser mae pobl yn gorfod disgwyl i gael triniaeth mewn wardiau brys unwaith eto.
Y targed yw bod 95% o gleifion yn cael eu trin o fewn pedair awr, ond y ffigwr ar gyfer mis Gorffennaf oedd 87.7%.
Yn ogystal fe wnaeth 860 o gleifion aros dros 12 awr cyn cael eu gweld. Targed y llywodraeth yw bod neb yn aros cyn hired â hynny.
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu'r ffigyrau.
'Gwasanaeth aros cenedlaethol'
Dywedodd eu llefarydd iechyd, Darren Millar: "O dan Llafur mae'r gwasanaeth iechyd wedi troi yn wasanaeth aros cenedlaethol ac ar ôl pum mlynedd o fethiant fe ddylai Carwyn Jones fod â chywilydd ohono'i hun.
"Mae aros dros 12 awr i gael eich gweld mewn adran frys yn annerbyniol, yn enwedig ar gyfer plant ifanc, yr henoed a'r rheiny sy'n ddifrifol wael.
"Yn ogystal ag achosi poen i gleifion, mae'r targedau yma yn dystiolaeth bellach o wasanaeth iechyd sy'n tanberfformio mewn modd difrifol o dan Llafur."
'Tua hanner yn cael eu trin mewn dwy awr'
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Dyw'r ffigyrau dan sylw ddim yn cyfeirio at yr amser mae claf yn aros i gael ei weld mewn uned frys, ond yn hytrach yr holl amser mae claf yn treulio yn yr uned. Mae hynny'n cynnwys mynediad, cael ei weld, ei symud neu ei ryddhau.
"Mae tua hanner yr holl gleifion mewn unedau brys yn cael eu trin a'u rhyddhau o fewn dwy awr neu lai.
"Fe wnaeth llai o gleifion aros 12 awr neu fwy o'r amser mynediad, i gael eu gweld, symud neu eu rhyddhau ym mis Gorffennaf (860) o'i gymharu â Mehefin (912)," meddai.
Ychwanegodd y llefarydd bod 91,000 wedi ymweld ag unedau brys yng Ngorffennaf, a bod hynny'n cymharu â 88,000 ym Mehefin.