Agor pont rheilffordd newydd Pont Briwet
- Cyhoeddwyd
Mae teithwyr ar drenau Rheilffordd y Cambrian wedi croesi'r Bont Briwet newydd am y tro cyntaf fore dydd Llun.
Mae'r rheilffordd wedi bod ar gau ers mis Tachwedd 2013 yn dilyn pryderon am ddiogelwch a sefydlogrwydd yr hen bont dros aber yr afon Dwyryd.
Roedd y bont 154 mlwydd oed yn croesi'r afon ym Mhenrhyndeudraeth.
Tra bod y rhan hon o Reilffordd y Cambrian ar gau, roedd teithwyr yn cael eu cludo mewn bws rhwng Harlech a Phwllheli.
Mae'r bont newydd wedi ei chynllunio i barhau am 120 mlynedd, ac mae'r gwaith adeiladu hwn yn gam cyntaf prosiect sy'n costio £20 miliwn i gyd.
Caiff prosiect Pont Briwet ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, trwy Lywodraeth Cymru, yn ogystal â chyllid gan Network Rail, TraCC a Chyngor Gwynedd.
'Cyswllt bwysig'
Meddai Dafydd Williams, Uwch Reolwr Trafnidiaeth Cyngor Gwynedd: "Mae'r prosiect yma wedi bod ar droed ers sawl blwyddyn.
"Fel Cyngor, rydan ni'n hynod o falch ein bod ni wedi gallu gweithio efo Network Rail, a bod y buddsoddiad a gafwyd trwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop a Llywodraeth Cymru wedi helpu sicrhau dyfodol cyswllt rheilffordd mor bwysig."
Meddai'r Gweinidog Trafnidiaeth Edwina Hart: "Fe fydd y bont newydd hon yn gwella teithiau ar y rheilffordd bwysig hon i ogledd-orllewin Cymru ac yn rhoi hwb economaidd a chymdeithasol i'r ardal."
Ychwanegodd Mark Langman, rheolwr gyfarwyddwr Cymru ar gyfer Network Rail: "Mae agor Pont Briwet yn newyddion gwych i'r rheilffordd, teithwyr a chymunedau lleol.
"Mae hi wedi bod yn flwyddyn heriol i Reilffordd y Cambrian yn sgil y difrod a achoswyd gan stormydd mis Ionawr."
Aros pellach am y bont ffordd
Nid yw'r prosiect adeiladu cymhleth hwn wedi bod heb ei broblemau.
Cafodd y safle ei gau am gyfnod pan fu'n rhaid gosod peilon trydan newydd gerllaw, ac fe wnaeth y tywydd stormus ddifrodi rhannau eraill o Reilffordd y Cambrian ar gychwyn y flwyddyn.
O ganlyniad, mae'r gwaith ar y safle wedi cymryd mwy o amser nag y byddai fel arall.
Unwaith y bydd y prif wasanaethau fel trydan a dŵr yn cael eu cludo dros y bont newydd, bydd yr hen bont yn cael ei dymchwel a bydd y gwaith yn cychwyn ar adeiladu'r bont ffordd.
Yn y cyfamser, mae gyrrwyr wedi bod yn cael eu dargyfeirio am wyth milltir ar hyd yr A496 trwy Faentwrog ac mae tagfeydd traffig difrifol wedi bod a nifer o deithwyr yn cwyno.
Bydd colofnau concrid newydd yn cael eu gosod, a fydd yn cyfuno i wneud un adeiladwaith sengl.
Er mai'r gobaith oedd y byddai'r ffordd yn agor cyn y Nadolig, mae'r contractwyr bellach wedi cadarnhau bod y gwaith sylweddol sy'n dal angen ei wneud yn golygu y bydd hi'n wanwyn 2015 cyn y bydd defnyddwyr ffordd yn gallu manteisio ar y bont newydd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Gorffennaf 2014
- Cyhoeddwyd13 Ionawr 2014