Ysgol newydd yn agor ei drysau
- Cyhoeddwyd
Mae ysgol newydd yn Sir Ddinbych yn agor ei drysau am y tro cyntaf i ddisgyblion ddydd Mercher ar ôl i ddwy ysgol uno â'i gilydd.
Cafodd Ysgol Carreg Emlyn ei sefydlu ar ôl i'r cyngor sir adolygu ei ddarpariaeth addysg gynradd yn ardal Rhuthun.
Un o argymhellion yr adolygiad oedd uno Ysgol Clocaenog ac Ysgol Cyffylliog.
Cafodd ymgynghoriad ei gynnal ynglŷn â dyfodol 11 o ysgolion cynradd yr ardal ddechrau 2013.
Dywed pennaeth Ysgol Carreg Emlyn, Einir Jones: "Mae Ysgol Carreg Emlyn yn ysgol ar gyfer y cymunedau o Dderwen i Gyffylliog.
"Rydym ni fel staff yn barod am yr her o ddechrau pennod newydd mewn addysg Gymraeg yn yr ardal".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Tachwedd 2012