Agoriad Pontio'n cael ei ohirio

  • Cyhoeddwyd
Pontio

Ni fydd y cynhyrchiad cyntaf Pontio yn mynd yn ei flaen fis yma gan nad yw'r adeilad yn barod.

Roedd Chwalfa i fod i gael ei dangos am y tro cyntaf yn Theatr Bryn Terfel, sydd yn rhan o'r ganolfan ar Medi 17.

Ond bydd yn rhaid i'r ddarpar gynulleidfa aros tan y flwyddyn newydd er mwyn gweld y cynhyrchiad, sy'n cael ei gynnal ar y cyd rhwng Theatr Genedlaethol Cymru a Chwmni'r Fran Wen.

Mae cadeirydd y bwrdd sy'n gyfrifol am redeg y ganolfan, Jerry Hunter, wedi ymddiheuro am yr anghyfleustra.

Ymddiheuriad

"Rydym yn ymddiheuro yn daer i'n cynulleidfa, y gymuned leol, ein partneriaid, ac yn arbennig Theatr Genedlaethol Cymru ac rydym yn rhannu'r siom," meddai yr Athro Hunter.

"Rydym wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r contractwr dros y chwe mis diwethaf, mae'r amserlen wedi bod yn dynn, ond roeddem yn credu fod modd agor ar amser.

"Fodd bynnag heddiw rydym wedi penderfynu na fydd hi'n bosib i ni agor gyda 'Chwalfa' fel a obeithiwyd."

Dywedodd y byddai trafodaethau yn cael eu cynnal gyda'r contractwyr ynglyn a phryd fydd y ganolfan nawr yn agor, ond y gallai hyn gymryd "peth amser".

Ychwanegodd: "Byddwn yn cyhoeddi dyddiadau newydd ar gyfer Chwalfa ar ddiwedd y mis. Bydd pawb sydd wedi prynu tocyn yn cael eu trosglwyddo i'r perfformiad cyfatebol yn y flwyddyn newydd, neu yn cael y dewis o dderbyn ad-daliad llawn.

"Yn ogystal, i wneud yn iawn am yr anhwylustod, bydd cwsmeriaid yn cael taleb anrheg gwerth £5 i'w ddefnyddio ar gyfer perfformiadau eraill yn y Theatr. Bydd staff swyddfa docynnau Pontio yn cysylltu â chwsmeriaid yn uniongyrchol."

'Siom fawr'

Dywedodd cyfarwyddwr artistig Theatr Genedlaethol Cymru a Chyfarwyddwr Chwalfa Arwel Gruffydd:

"Rhan ganolog o weledigaeth Theatr Genedlaethol Cymru yw gweithio gyda chymunedau i greu darn o waith theatr pwerus, pwrpasol.

"Mae yna fisoedd o waith paratoi wedi digwydd yn barod, a nifer ohonom, yn artistiaid a gweithwyr theatr proffesiynol yn ogystal â thrigolion yr ardal, wedi gweithio'n ddiwyd ac ymroddedig i greu cynhyrchiad eithriadol.

"Hoffwn ddiolch ar ran y cwmni i bawb sydd wedi bod yn rhan o'r fenter am eu brwdfrydedd, a'r croeso rydym wedi ei dderbyn.

"Mae'r bwrlwm a'r disgwyliad yn yr ardal wedi bod yn amlwg iawn, ac mae'n siom fawr i ni na fyddwn yn llwyfannu'r cynhyrchiad yn hwyrach y mis hwn; ond rwy'n falch iawn ein bod yn gallu dod yn ôl i roi'r cynhyrchiad ar lwyfan Theatr Bryn Terfel yn y Flwyddyn Newydd.

"Yr hyn sydd yn bwysig i ni yw bod y stori arbennig hon, a'r gwaith caled hwn yn cael gweld golau dydd."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol