Pryder am doriadau i brentisiaethau
- Cyhoeddwyd
Mae sefydliad sy'n cynrychioli'r diwydiant hyfforddi wedi beirniadu Llywodraeth Cymru am wneud toriadau ariannol i'r sector brentisiaethau.
Yn ôl Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru (NTFW) mi fydd hyn yn arwain at 9,000 yn llai o brentisiaethau'r flwyddyn nesaf, sydd bron i 50% yn llai na'r flwyddyn hon.
Mae rheolwr NTFW Jeff Protheroe yn dweud y bydd hyn yn cael effaith uniongyrchol ar allu pobl ifanc i ddechrau gyrfa.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod toriad i'w cyllideb wedi eu gorfodi i flaenoriaethu rhai agweddau ym maes prentisiaethau.
'Effaith sylweddol'
Mae NTFW yn dweud eu bod wedi cynnal astudiaeth sy'n dangos fod £10.7 miliwn wedi cael ei dorri o'r gyllideb prentisiaethau ar gyfer Awst 1, 2014 i Fawrth 31, 2015 o'i gymharu â'r un cyfnod y flwyddyn flaenorol.
Maen nhw'n dweud bod 76% o'r arian sydd ar ôl yn gorfod cael ei wario ar brentisiaid sydd eisoes wedi dechrau eu cyrsiau.
Yn ôl Mr Protheroe mae'r toriadau yn golygu "effaith sylweddol" ar allu cwmnïau hyfforddi i roi cymorth i bobl ifanc gyda'u gyrfa.
Dywedodd:"Pan rydych yn gweld y ffigyrau mewn du a gwyn yr unig air i'w disgrifio ydi llwm - 9,000 yn llai o brentisiaethau na'n flwyddyn ddiwethaf.
"Mae'n aelodau wedi cael eu gadael yn crafu eu pennau achos does dim slac yn y rhaglen brentisiaethau all gael ei dorri.
"Mae'n edrych fel bod y llywodraeth wedi derbyn cyngor gwael."
Ychwanegodd ei fod yn pryderu am yr effaith allai'r toriadau gael ar fenter creu gwaith y llywodraeth, Twf Swyddi Cymru.
Mae Mr Protheroe wedi gofyn am gyfarfod brys gyda'r Dirprwy Weinidog Sgiliau newydd, Julie James, er mwyn trafod y sefyllfa.
'Gonest'
Wrth ymateb i'r pryderon, dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi bod yn onest am faint yr her ariannol rydym yn ei wynebu.
"Erbyn 2015/16 mi fydd cyllideb Cymru 10% yn llai mewn termau real nag yr oedd yn 2010/11. Ond dyw'r gostyngiadau i brentisiaethau ddim ar draws y bwrdd.
"Mi fyddan ni'n sianelu ein harian prentisiaethau i'r rheini rhwng 16 a 24, yn ogystal â phrentisiaethau lefel uwch a rhaglenni hyfforddi.
"Mi fyddan yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddarparu cyfleoedd i bobl ifanc drwy ein gwasanaeth paru prentisiaeth a'n rhwydwaith o ddarparwyr hyfforddiant."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd3 Mehefin 2014