Swyddi i'r ifanc yn cyrraedd 13,000

  • Cyhoeddwyd
Ricky OwenFfynhonnell y llun, Hydratech-Evans Coolants
Disgrifiad o’r llun,

Ar ôl bod ar y cynllun am chwe mis mae Ricky Owen wedi sicrhau prentisiaeth

Mae cynllun sy'n creu swyddi dros dro i bobl ifanc wedi llwyddo i gyrraedd targedau'r llywodraeth flwyddyn yn gynt na'r disgwyl.

Mae Twf Swyddi Cymru wedi creu 13,000 o gyfleoedd i bobl ifanc rhwng 16 a 24 oed ers iddo gael ei lansio yn 2012.

Dywed y llywodraeth fod 82% o'r rhai gafodd eu cyflogi gan gwmnïau preifat wedi llwyddo wedyn i gael prentisiaeth, mwy o ddysgu neu swydd.

Ond dywed Ceidwadwyr Cymru fod angen gwneud mwy i greu mwy o swyddi.

Bwriad Twf Swyddi Cymru yw creu 4,000 o swyddi dros dro bob blwyddyn ond mae'r ffigyrau diweddara yn dangos fod y targed wedi ei gyrraedd 12 mis yn gynnar.

Mae'r cynllun yn talu isafswm cyflog a hefyd cyfraniad yswiriant cenedlaethol y cyflogwr.

Mae ychydig yn llai na 10,000 o'r 13,000 o swyddi wedi eu llanwi. Yn ôl gweinidogion mae'r bwlch oherwydd bod y broses o recriwtio yn mynd rhagddo.

Dywed gweinidogion fod y cynllun eisoes yn llwyddo ac y bydd £12.5 miliwn yn cael ei wario ar greu 4,000 yn fwy o swyddi dros dro o 2015.

TWF SWYDDI CYMRU

  • Nifer cyfleon swyddi sydd wedi eu creu 13,223

  • Nifer y swyddi sydd wedi eu llenwi 9,978

  • O'r rhain fe wnaeth 5,116 gymryd cyfle swydd am chwe mis, mae 2,678 yn parhau ar y cynllun ac fe wnaeth 2,184 adael y cynllun yn gynnar.

  • Ffynhonell: Ymchwil ac Ystadegau Llyowdraeth Cymru hyd at 10 Mai, 2014

Dywedodd y prif weinidog Carwyn Jones fod y ffigyrau yn rhagorol.

Gwnaeth ei sylw cyn iddo gyhoeddi'r adroddiad diweddara' o'u rhaglen lywodraethu yn ddiweddarach.

Mae'r asesiad blynyddol o'r rhaglen yn nodi perfformiad y llywodraeth mewn meysydd fel cyflogaeth, iechyd, addysg a chymuned

Mae cwmni Hydratech-Evans Coolants o Abertawe, sy'n cynhyrchu hylif arbenigol, wedi rhoi swyddi i 10 o bobl ifanc dros gyfnod o ddwy flynedd.

O'r rhain mae chwech wedi derbyn prentisiaeth, mae dau arall wedi mynd i addysg uwch ac mae dau arall yn parhau ar y cynllun.

Dywedodd Steve Hickson, rheolwr gyfarwyddwr fod y cynllun yn hynod werthfawr.

"Rydym wedi gallu rhoi profiad gwaith credadwy i bobl ifanc lleol, lle mae yna gyfle iddynt ddysgu, datblygu sgiliau newydd ac ennill cyflog," meddai.

Dywedodd William Graham AC, llefarydd y Ceidwadwyr ar Fusnes:

"Tra bod Twf Swyddi Cymru wedi creu cyfleoedd gwaith i rai o'n pobl ifanc, mae'n siomedig fod gweinidogion Llafur wedi methu a chefnogi cyfleoedd eraill i greu swyddi drwy dorri trethi busnes a lleihau biwrocratiaeth sy'n llesteirio busnesau.

"Mae angen i ni ddechrau hyrwyddo entrepreneuriaeth mewn ysgolion a galluogi pobl i wneud arian, creu swyddi a gwneud Cymru yn wlad ffyniannus."

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol