Achos Darell Simester: Ar fferm 'yn rhy hir'

  • Cyhoeddwyd
Darrell SimesterFfynhonnell y llun, Wales News Service

Yn Llys y Goron Caerdydd, mae'r achos yn parhau yn erbyn tad a mab sydd wedi'u cyhuddo o orfodi dyn i weithio iddyn nhw ar fferm yn ddi-dâl am flynyddoedd.

Mae'r tad, Daniel Doran, 67, a'i fab David Daniel Doran, 42, ill dau yn gwadu'r cyhuddiadau yn eu herbyn.

Fore dydd Llun fe wnaeth yr erlyniad barhau i holi Darell Simester, 44, unwaith eto.

Mae Mr Simester yn honni iddo gael ei orfodi i weithio ar fferm rhwng Caerdydd a Chasnewydd am 13 o flynyddoedd.

'Llond bol o'r lle'

Gofynnwyd iddo pam yr oedd o a'i dad wedi crïo pan ddaeth ei dad a'i frawd i'r fferm ar ôl yr holl flynyddoedd.

Atebodd: "13 blynedd heb eu gweld i ddweud y gwir."

Pan ofynnwydd iddo pam yr oedd wedi dweud ei fod yn falch o adael, atebodd: "Roeddwn i wedi cael llond bol o'r lle, ro'n i wedi bod yno'n rhy hir."

Fe holodd yr erlyniad am y ffôn oedd yn y sied ble roedd Mr Simester yn byw. Er iddo weld pobl eraill yn ei ddefnyddio, dywedodd nad oedd o "wedi trafferthu gofyn" i gael defnyddio'r ffôn.

Wrth geisio egluro pam, awgrymodd Mr Simester fod ganddo ormod o ofn.

Ychwanegodd nad oedd ganddo syniad beth allai fod wedi digwydd petai wedi gofyn i gael defnyddio'r ffôn.

'Fel hen ddyn'

Clywodd y llys dystiolaeth gan frawd Darrell Simester, Duncan Simester, a oedd yn ymddangos dan deimlad wrth iddo ddisgrifio'r aduniad gyda'i frawd.

Disgrifiodd Duncan Simester sut yr aeth at ei frawd ar fferm Cariad, ond gwnaeth Darrell ddim ei adnabod. Roedd yn ymddangos yn nerfus am siarad gyda Duncan gan ddweud ei fod yn cael ei wylio.

Dywedodd Darrell wrth ei frawd i ddychwelyd pan yr oedd o'n cloi'r fferm gyda'r nos.

Galwodd y teulu yr heddlu a chafwyd aduniad rhwng Darrell a'i dad.

Dywedodd Duncan bod ei frawd wedi mynd i'w gwman fel hen ddyn ac nad oedden nhw wedi sylwi ar ei ddorgest (hernia) nes iddo gyrraedd adref.

'Gall edrych ar ôl ei hun'

Wrth gael ei groesholi gan y bargyfreithiwr ar ran yr amddiffyniad, Kevin Malloy, dywedodd Duncan bod gamblo Darrell wedi effeithio ar y teulu.

Clywodd y llys nad oedd Darrell yn gallu talu ei rent ac felly bu'n rhaid iddo ddychwelyd i fyw gyda'i rieni.

Ers yr aduniad llynedd cyfaddefodd Duncan Simester nad oedd pethau "wedi bod yn 100% esmwyth".

Roedd y teulu wedi ffraeo dros gamblo parhaus Darrell ac roedd Duncan wedi taro ei frawd oherwydd hynny.

Yn ogystal clywodd y llys bod y £5,000 dderbyniodd Darrell gan bapur newydd The Sun wedi ei roi yng nghyfrif banc Duncan i'w wario pan roedd Darrell angen unrhyw beth.

Dywedodd Duncan mai'r rheswm am hyn oedd nad oedd gan Darrell gyfrif banc pan dderbyniodd y siec.

Roedd Duncan yn anhapus bod ei frawd yn parhau i fyw gartref, gan deimlo na ddylai eu rhieni orfod edrych ar ei ôl.

Dywedodd: "Mae'n 44 oed, gall edrych ar ôl ei hun."

Mae'r achos yn parhau.