Democratiaid Rhyddfrydol yn cefnogi cyllideb Cymru
- Cyhoeddwyd
Mae disgwyl y bydd llywodraeth leol yn wynebu mwy o doriadau heddiw pan fydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi manylion y gyllideb.
Ym mis Mehefin ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y cynghorau sir yn eu rhybuddio y byddan nhw'n wynebu toriadau pellach o hyd at 4.5%.
Mae disgwyl y bydd gwariant ar iechyd yn cynyddu am yr ail flwyddyn yn olynol.
Cyllideb y flwyddyn nesaf yw £15.1 biliwn, sy'n is na'r £15.3 biliwn ar gyfer 2014-15. Mae'r gostyngiad yn llawer mwy pan mae effeithiau chwyddiant yn cael eu hystyried.
Bargen gyda'r Democratiad Rhyddfrydol
Oherwydd nad oes gan y blaid Lafur fwyafrif yn y Senedd, roedd y llywodraeth angen cefnogaeth un o'r pleidiau eraill yn y Cynulliad i basio'r gyllideb.
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi cyhoeddi eu bod nhw wedi dod i gytundeb gyda'r llywodraeth fydd yn eu galluogi i basio'r gyllideb am y ddwy flynedd nesaf.
Mae'r fargen werth £223 miliwn dros gyfnod o ddwy flynedd, ac mi fydd yn gweld y Grant Amddifadedd Disgyblion - un o brif bolisïau'r Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru - yn cael ei gynyddu i £1,050 yn 2015/16 a £1,150 y flwyddyn ganlynol.
Yn ogystal bydd ffordd gyswllt yn nwyrain Caerdydd yn cael ei gorffen, ond ni fydd gwaith yn dechrau ar ffordd liniaru'r M4 ger Casnewydd tan ar ôl etholiadau nesaf y Cynulliad.
Mi fydd peth o'r arian hefyd yn mynd tuag at ofal plant, prentisiaethau a bydd £15 miliwn yn cael ei wario ar alluogi pobl ifanc i deithio'n rhatach.
Barn y Ceidwadwyr
Yn ôl llefarydd cyllid y Ceidwadwyr, Nick Ramsay, ers 2010 mae Llafur Cymru yn gyfrifol am "doriadau enfawr" i'r gwasanaeth iechyd tra mae gweddill gwledydd y DU wedi bod yn amddiffyn yr un gwasanaethau.
Ychwanegodd: "Mae toriadau Llafur ar y GIG wedi effeithio'n fawr ar gleifion wrth greu prinder gwlâu, israddio a chanoli gwasanaethau a methu llwyth o dargedau perfformiad.
"O dan Llywodraeth Lafur, wynebu toriadau ariannol enfawr mae'r GIG gan arwain at ddyledion i fyrddau iechyd lleol. O ganlyniad, mae ceisiadau am arian blynyddol ac amodi cyfrifon.
"Mae'n hanfodol i weinidogion Llafur sicrhau nad ydynt yn ailadrodd yr un camgymeriadau o ariannu a darparu'r GIG tlotaf erioed a welodd y DU."
'Talu'r pris'
Ar gyfer y gyllideb ddiwethaf, cytunodd Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol i helpu'r weinyddiaeth Lafur leiafrifol i basio'r gyllideb drwy'r siambr yn gyfnewid am tua £100m i'w wario ar eu blaenoriaethau nhw.
Ond mae Plaid Cymru wedi gwrthod bod yn rhan o unrhyw drafodaethau cynnar eleni mewn protest yn erbyn penderfyniad Llywodraeth Cymru i fwrw ymlaen â'r gwaith addasu'r M4 yn ardal Casnewydd.
Dywedodd Alun Ffred Jones, llefarydd ariannol Plaid Cymru: "Bydd effaith y toriadau yn drychinebus i Gymru wrth i'r llywodraeth Lafur barhau i dorri yn ôl ar bron bob gwariant sylweddol er mwyn darparu pres i'r byrddau iechyd dyledus.
"Mae effaith ar gyllideb llywodraeth leol yn siŵr o bryderu'r cyhoedd. Wrth effeithio ar gyflog y bobl, maent hefyd yn bygwth y gwasanaethau rydym yn dibynnu arnyn nhw.
"Mae diffyg hyder yng ngallu'r byrddau iechyd i reoli, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddilyn strategaeth o lenwi'r bylchau yn hytrach na ymgeisio i greu cynlluniau cadarn i'r dyfodol."
Mwy i iechyd eto?
Mae disgwyl i'r gyllideb ar gyfer 2015-16 barhau â'r blaenoriaethau a osodwyd yn y gyllideb y llynedd lle roedd £570m yn ychwanegol wedi cael ei glustnodi i iechyd dros gyfnod o dair blynedd.
Ers cyllideb y llynedd, mae adroddiad a gyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Nuffield yn Ebrill yn awgrymu bod penderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â diogelu cyllid y GIG yn 2011 yn gyfrifol am amseroedd aros yn hirach oddi fewn i'r gwasanaeth.
Ers y penderfyniad hwnnw mae'r Ceidwadwyr ym Mae Caerdydd ac yn San Steffan wedi ei defnyddio fel arf wrth ymateb i heriau gan y blaid Lafur ar wahanol faterion.
Fodd bynnag, awgrymodd yr astudiaeth Nuffield nad oedd unrhyw dystiolaeth bod Cymru yn "llusgo y tu ôl" i unrhyw ran arall o'r DU.
Flwyddyn yn ôl, disgynnodd gwariant llywodraeth leol bron i £200 miliwn - oedd yn cyfateb i doriad o 3.91% - ac mae ofnau y gallai toriadau tebyg ddigwydd eto eleni.
Bydd gwneud toriadau i'r gyllideb addysg yn anodd yng ngoleuni addewid y Prif Weinidog Carwyn Jones i wario 1% yn fwy na'r dyraniad grant bloc ar ysgolion bob blwyddyn.
Bydd y Gweinidog Cyllid, Jane Hutt yn cyhoeddi'r gyllideb yn y Senedd brynhawn dydd Mawrth, gydag angen i sicrhau cymeradwyaeth y Cynulliad erbyn diwedd y flwyddyn.
Gwasanaethau poblogaidd yn dioddef?
Dywedodd Steven Thomas o Gymdeithas Llywodraeth Lleol Cymru (WLGA) mai'r broblem sy'n wynebu'r rhan fwyaf o'r cynghorau yw bod llawer o'u cyllidebau eisoes wedi cael eu diogelu, fel na ellir torri'r gwariant ar addysg ac ati.
Ychwanegodd bod y ddemograffeg sy'n defnyddio'r gwasanaethau cymdeithasol yn "mynd drwy'r to", yn enwedig gyda phoblogaeth sy'n heneiddio'n gyflym, "felly mae'n rhaid i ni ddelio â hynny".
Dywedodd hefyd: "Felly, beth mae'n ei olygu yw bod yr holl doriadau yn tueddu i ddisgyn ar amrywiaeth o wasanaethau penodol.
"Nid yw'n syndod fod y canolfannau hamdden yn cael eu taro - gwasanaethau nad ydynt yn statudol, mae llyfrgelloedd hefyd yn cael taro, toiledau cyhoeddus a chanolfannau dydd, yr holl bethau y mae'r cyhoedd wir yn gwerthfawrogi.
"Does dim byd o'i le ar newid, ond mae'n rhaid i gyrraedd pwynt lle rydych yn gofyn y cwestiwn am gynaliadwyedd yn y tymor hir."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd30 Medi 2014