Gorsaf radio annibynnol gyntaf yn dathlu 40 mlynedd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd 'na barti go fawr yn Abertawe heno wrth i griw gorsaf radio Sain Abertawe ddathlu penblwydd yr orsaf annibynnol gyntaf Cymru.
Mae 40 mlynedd ers i'r orsaf ddechrau darlledu, ac yn Neuadd Brangwyn heno, mi fydd lleisiau cyfarwydd o'r gorffennol yn cael cyfle i ddathlu ac i hel atgofion
Am chwech o'r gloch y bore, 30 Medi, 1974, o stiwdios newydd sbon yn Nhre-gŵyr, aeth gorsaf radio annibynnol cyntaf Cymru, Sain Abertawe, ar yr awyr.
Dim ond chwech o orsafoedd masnachol eraill oedd yn bodoli cyn i Sain Abertawe ennill y seithfed drwydded a'r gorsafoedd eraill i gyd yn darlledu mewn dinasoedd mawr: Llundain (LBC a Capital Radio), Glasgow (Radio Clyde), Birmingham (BRMB), Manceinion (Piccadilly Radio) a Newcastle (Metro Radio).
Er gwaetha'r holl baratoadau, nid oedd popeth yn barod ar y diwrnod cyntaf hwnnw, union ddeugain mlynedd yn ôl.
Wyn Thomas oedd yn bennaeth rhaglenni Cymraeg Sain Abertawe ar y pryd.
"Roeddwn yn cyflwyno rhaglen phone-in ar y dechrau, ond ar ôl mynd yn fyw ar y diwrnod cyntaf, fe sylweddolais nad oeddem wedi cysylltu'r ffôn."
Un arall fu'n gweithio yno yw Garry Owen: "Roedd 'na deimlad cyffrous iawn yn perthyn i'r orsaf, roedd yn rhywbeth arloesol iawn ac yn torri tir newydd ym myd radio yng Nghymru, ac o ran y Gymraeg, roedd 'na gynulleidfa gref iawn, roeddem yn teimlo fel un teulu mawr."
Rhagleni uchelgeisiol
Ac yn ôl Wyn Thomas roedd rhaglenni Sain Abertawe yn rhai uchelgeisiol: "Roeddem yn gwneud rhaglenni crefyddol, roeddem yn gwneud dramâu, mi oedd gennym gerddorfeydd yno."
Yn y dyddiau cynnar roedd 'na bryderon y byddai chwarae cerddoriaeth Gymraeg yn arwain at golli gwrandawyr, ac arian hollbwysig yr hysbysebwyr. Ond 40 mlynedd yn ddiweddarach, mae Sain Abertawe yn parhau i gynhyrchu rhaglenni Cymraeg.
Roedd 'na dair blynedd cyn i Radio Cymru ddechrau gwasanaeth llawn, a chwe blynedd arall cyn i ail orsaf annibynnol Cymru - CBC yng Nghaerdydd, ddod ar yr awyr. Ac yn ôl Wyn Thomas - roedd gan y gystadleuaeth griw talentog o ddarlledwyr i'w dwyn o Abertawe.
Ganol y nawdegau, yn dilyn yr un patrwm a gorsafoedd eraill drwy Brydain, mi fu'n rhaid creu gorsaf radio newydd yn Abertawe. Mae'r gwasanaeth ar FM yn targedu gwrandawyr ifanc gyda Sain Abertawe, a'r rhaglenni Cymraeg, ar AM, yn targedu'r gynulleidfa hŷn.