Cyfarfod i sicrhau dyfodol neuadd gymunedol yn y Bala
- Cyhoeddwyd

Dyma'r ail gyfarfod cyhoeddus i gael ei gynnal i drafod dyfodol neuadd Buddug.
Daeth rhyw 70 o bobol i gyfarfod cyhoeddus yn y Bala nos Lun lle sefydlwyd pwyllgor llywio i gynnal trafodaethau efo Cyngor Gwynedd ynglŷn â dyfodol Neuadd Buddug.
Mae Cyngor Gwynedd yn edrych o ddifri ar yr opsiwn i gau'r neuadd, oherwydd cyflwr yr adeilad a'r angen i fuddsoddi miloedd o bunnau i brynu offer darlledu ffilmiau digidol.
Ond gobaith ymgyrchwyr ydi sefydlu rhyw fath o gwmni cymunedol i'w chymryd drosodd gan y cyngor.
Agorwyd Neuadd Buddug gan y Frenhines Fictoria yn 1890, roedd yn gartref i'r pictwrs wedi hynny ac yn gwasanaethu pobol y Bala a'r ardal.
Cefnogaeth gref
Dyma'r ail gyfarfod cyhoeddus i gael ei gynnal i drafod dyfodol Neuadd Buddug. Daeth dros 100 i'r cyntaf a gynhaliwyd wythnos diwethaf.
Wrth ymateb i'r ffaith fod 'na lai wedi dod i'r cyfarfod hwn dywedodd y trefnydd Nansi Thirsk ei bod wedi derbyn nifer o ymddiheuriadau gan bobol oedd wedi methu mynychu'r cyfarfod a'i bod yn hollol ffyddiog fod 'na gefnogaeth gref yn yr ardal i sicrhau dyfodol Neuadd Buddug.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd ei bod nhw'n awyddus i gydweithio gyda'r gymuned i gynllunio darpariaeth gelfyddydol fodern i ardal Penllyn i'r dyfodol ac yn hyn o beth bod trafodaethau yn parhau gyda chynghorwyr lleol.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd12 Medi 2014