Sir Gâr: Mark James eisiau gadael

  • Cyhoeddwyd
Mark James
Disgrifiad o’r llun,

Bydd Mark James yn parhau gyda'i ddyletswyddau am y tro

Brynhawn dydd Mawrth, fe gadarnhaodd Cyngor Sir Caerfyrddin fod cais ar gyfer diswyddo wedi ei dderbyn gan brif weithredwr y cyngor, Mark James.

Yn ôl y cyngor, mae'r cais yn cael ei ystyried "ochr yn ochr â'r oddeutu 360 o ddatganiadau o ddiddordeb eraill sydd wedi eu derbyn gan staff hyd yma".

Fe fydd Mr James yn parhau yn ei swydd fel prif weithredwr, wrth i'r cais gael ei ystyried dros gyfnod o dri i bedwar mis.

Ychwanegodd y cyngor y byddai "busnes yn parhau fel arfer".

Y llynedd, fe benderfynodd Swyddfa Archwilio Cymru fod cynghorau Sir Caerfyrddin a Phenfro wedi gweithredu'n anghyfreithlon drwy adael i Mr James ynghyd â Bryn Parry Jones ac uwch swyddog arall yn Sir Benfro ddewis peidio cymryd rhan mewn cynllun pensiwn a derbyn taliadau arian parod yn lle hynny.

Mae ymchwiliad gwreiddiol Heddlu Sir Gaerloyw wedi methu dod o hyd i unrhyw dystiolaeth i awgrymu unrhyw drosedd yn achos Mr James, ond mae ymchwiliad arall yn mynd rhagddo wedi i fwy o wybodaeth ddod i law yn yr achosion yn Sir Benfro.

Fe gamodd Mr James i'r neilltu yn ystod ymchwiliad yr heddlu, cyn dychwelyd i'w waith ym mis Mai.