Ychwanegu 't' i enw pentref

  • Cyhoeddwyd
arwydd y pentrefFfynhonnell y llun, Alex McGregor
Disgrifiad o’r llun,

Bydd y lythyren 't' yn dychwelyd i enw'r pentref

Daeth wyth mlynedd o ddadlau i ben wrth i Gyngor Powys bleidleisio dros adfer y lythyren t i enw pentref yn y sir.

Llansanffraid-ym-Mechain yw enw'r pentref ers 2008 pan benderfynodd yr awdurdod dynnu'r lythyren 't', gan ddweud ar y pryd eu bod yn cywiro hen gamgymeriad.

Mae aelod seneddol Maldwyn, Glyn Davies, wedi croesawu'r penderfyniad i newid yr enw i 'Llansantffraid-ym-Mechain' gan ddweud bod "synnwyr cyffredin wedi ennill y dydd o'r diwedd" - fe ddywed y Cyngor bod 't' yn yr enw ers y 1800au.

Pleidleisio cabinet Cyngor Powys ddydd Mawrth i adfer y lythyren 't' i enw'r pentref.

Pan gafodd y 't' ei hepgor yn 2008, fe ddywedodd yr awdurdod bod gwneud hynny'n cydnabod y ffaith mai benywaidd oedd y santes y cafodd y pentref ei enwi ar ei hôl.

Ond arweiniodd y penderfyniad yna at ffrae yn y pentref, ac mewn arolwg a gynhaliwyd ddwy flynedd yn ddiweddarach dywedodd 70 o bentrefwyr y dylid adfer y 't' gydag ond tri yn gwrthwynebu.

Dywedodd Mr Davies: "Mae bron bob person i mi siarad â nhw o blaid adfer y 't' i'r enw."