Ymgynghoriad maes awyrennau gofod Llanbedr yn dod i ben

  • Cyhoeddwyd
Maes Awyr Llanbedr
Disgrifiad o’r llun,

Byddai angen datblygu sylweddol ar Faes Awyr Llanbedr os yw'r cynllun yn mynd yn ei flaen

Bydd ymgynghoriad ar gynllun posib i ddatblygu maes awyr i awyrennau gofod yng Ngwynedd yn dod i ben ddydd Llun.

Mae maes awyr Llanbedr ger Harlech yn un o wyth safle y mae Llywodraeth San Steffan yn ystyried ar gyfer creu 'Porth Gofod'.

Mae arweinwyr busnes yn yr ardal yn dweud bod y cynllun yn cynnig llawer o swyddi newydd mewn ardal sydd wir eu hangen.

Ond mae 'na bryderon am effaith unrhyw gynllun posib ar amaethyddiaeth, twristiaeth a byd natur.

'Cyfle am swyddi'

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Idris Jones yn gefnogol o'r syniad

Yn ol cadeirydd Parth Menter Eryri, John Idris Jones, mae'r cynllun yn gyfle gwych i greu swyddi.

"'Da ni yn y busnes o geisio denu buddsoddiad i mewn i Feirionnydd a trio sicrhau bod Meirionnydd yn cael y cyfle i gael swyddi gwerth uchel," meddai.

"Ac mae'r gofod yn rhoi cyfle i gael swyddi gwerth uchel i mewn i'r ardal."

Un arall sy'n cefnogi'r syniad yw Anwen Hughes, cynghorydd sir lleol.

Dywedodd: "Dwi o blaid y datblygiad gofod, y rheswm pennaf ydy i ddod a bywyd yn ol i bentre' Llanbedr ac i hybu'r economi leol - sydd ar hyn o bryd yn marw ar ei thraed."

Disgrifiad o’r llun,

Delwedd artist o sut all y Porth Gofod edrych

Disgrifiad o’r llun,

Mae John Harold am weld tirwedd ac amgylchedd Meirionnydd yn cael ei hamddiffyn

Pryder amgylcheddol

Ond mae rhai yn poeni am effaith amgylcheddol unrhyw gynllun, ac yna effaith pellach ar dwristiaid sy'n dod i fwynhau'r awyr agored yn yr ardal.

"Mae'n bwysig iawn i gefnogi busnesau sydd yn gwneud y gorau o'r Parc," yn ol Cyfarwyddwr Cymdeithas Eryri, John Harold.

"'Da ni ddim yn credu bod y spaceport yn mynd i helpu ni i gadw a gofalu am y pethau sy'n arbennig yma - y tirwedd arbennig, y bywyd gwyllt ac yn y blaen."

Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, yn dweud bod y cynllun yn un pwysig iawn i Wynedd.

"Fel cyngor rydyn ni'n falch iawn bod Maes Awyr Llanbedr wedi ei dewis fel un o wyth lleoliad posib i'r Porth Gofod, ac rydyn ni wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU i gadarnhau ein bod ni yn gwbl gefnogol i'r datblygiad fel lleoliad Porth Gofod y DU."

Yn ol Llywodraeth San Steffan does dim sicrwydd pryd y bydd y safle yn cael ei ddewis.