Canolfan celfyddydau'r Muni ym Mhontypridd wedi cau
- Cyhoeddwyd
Mae canolfan gelfyddydau y Muni ym Mhontypridd wedi cau ar ôl i gynhyrchiad gan Frank Vickery gael ei dangos nos Sadwrn.
Mae'r ganolfan wedi bod ar agor ers y 1980au, ond ym mis Mai dywedodd Cyngor Rhondda Cynon Taf y byddai'n cau fel rhan o doriadau werth £70m dros bedair blynedd.
Ar y pryd, dywedodd yr awdurdod "does dim datrysiad hawdd yn y sefyllfa ariannol anodd yma".
Dywedodd Mr Vickery bod y penderfyniad i gau'r ganolfan yn un "ofnadwy", a siaradodd gyda'r gynulleidfa wrth i'r cynhyrchiad olaf ddod i ben.
Ychwanegodd ei fod yn deall bod gan ddau gwmni ddiddordeb mewn cymryd rheolaeth am y Muni, ond na fyddai'n ail-agor fel canolfan gelfyddydau.
"Dwi wedi bod yn llwyfannu cynyrchiadau yna ers 21 o flynyddoedd - ac wedi cynnal cyfanswm o 44 yna," meddai.
Dywedodd nad oedd yn ganolfan perfformiad yn unig, ond yn un oedd yn cael ei ddefnyddio gan y gymuned gyfan ym Mhontypridd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd14 Mai 2014
- Cyhoeddwyd24 Chwefror 2014