Cwricwlwm 'angen newidiadau sylweddol'

  • Cyhoeddwyd
Graham DonaldsonFfynhonnell y llun, Prifysgol Glasgow
Disgrifiad o’r llun,

Yr Athro Graham Donaldson sy'n arwain adolygiad o'r system addysg yng Nghymru

Mae'r dyn sy'n gyfrifol am adolygu'r cwricwlwm addysg yng Nghymru yn dweud bod angen newidiadau sylweddol.

Yn ôl yr Athro Graham Donaldson, mae gan y system addysg nifer o gryfderau, ac fe fydd yn adrodd ei ganfyddiadau yn llawn yn y flwyddyn newydd.

Ond wrth amlinellu rhai o'i syniadau mewn llythyr i'r Gweinidog Addysg, Huw Lewis, fe ddywedodd yr Athro Donaldson:

"Tra bo'r dystiolaeth yn awgrymu'r angen am newid sylweddol, mae 'na nifer o gryfderau o fewn addysg Gymreig y gallwn ni adeiladu arnyn nhw."

'Effaith sylweddol'

Ychwanegodd y bydd ei adroddiad o bosib "yn cynnig argymhellion fydd yn cael effaith sylweddol ar fframwaith pwrpas y cwricwlwm - sut yr ydym ni'n disgrifio a threfnu pob rhan, a sut yr ydym ni'n asesu datblygiad wrth ddysgu."

Fe ymwelodd yr Athro Donaldson a'i dîm â 58 ysgol ledled y wlad, i gyfarfod a chlywed barn prif athrawon, athrawon, disgyblion a rhieni.

Yn ei lythyr, dywedodd eu bod nhw hefyd wedi cwrdd â nifer o sefydliadau ag unigolion oedd yn cynrychioli ystod eang o brofiad a barn Gymreig.

Fis Mawrth, fe gyhoeddodd Huw Lewis mai'r Athro Donaldson fyddai'n arwain adolygiad annibynol o ddulliau asesu a'r cwricwlwm yng Nghymru.

Y nod yw creu gweledigaeth glir ar gyfer addysg o'r blynyddoedd cynnar i oedran TGAU.

Ymateb y gwrthbleidiau

Mewn ymateb, fe ddywedodd llefarydd addysg Plaid Cymru Simon Thomas:

"Mae'r cyhoeddiad heddiw yn edrych fel cam cadarnhaol tuag at sefydlu'r cwricwlwm unedig a symlach y bu Plaid Cymru yn galw amdano ers amser.

"Mae llawer o waith eto i'w wneud i ail-ddiffinio pwrpas y cwricwlwm ac asesu, fel y cydnabuwyd gan yr Athro Donaldson, ac y mae'n galonogol fod cymaint o bobl wedi cymryd rhan yn y drafodaeth hon, gan gynnwys llawer o'r bobl ifanc y bydd yn effeithio arnynt.

"Mae Plaid Cymru eisiau gweld athrawon yn cael mwy o ryddid i ddysgu a chyflwyno'r amcanion hyn.

"Dylai deilliannau dysgu gael eu gosod gan y llywodraeth yn ganolog, ond dylai ysgolion allu pennu sut y maent yn cyrraedd y deilliannau hynny heb fawr ddim ymyrraeth. Yr hyn sy'n hanfodol yw ein bod yn ymddiried mewn athrawon i ddysgu - hwy yw'r arbenigwyr."