Trin canser: Angen 'arweinyddiaeth genedlaethol gryfach'

  • Cyhoeddwyd
Claf a meddyg
Disgrifiad o’r llun,

Mae un o bwyllgorau Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am "arweinyddiaeth genedlaethol gryfach" wrth drin canser.

Mae Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cynulliad Cenedlaethol Cymru wedi galw am 'arweinyddiaeth genedlaethol gryfach' wrth drin canser yng Nghymru.

Yn ôl y Pwyllgor mae angen arweinyddiaeth o'r fath er mwyn sicrhau bod cynllun Llywodraeth Cymru i atal, canfod a thrin canser yn cael ei ddarparu i'w lawn botensial erbyn 2016.

Dywedodd y Pwyllgor bod cynllun Llywodraeth Cymru, 'Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser y GIG hyd at 2016', wedi gwneud gwelliannau mewn rhai meysydd, yn enwedig ymchwil, sgrinio canser a gofal diwedd oes.

Ond roedd y Pwyllgor wedi derbyn gwybodaeth gan bobl sydd wedi derbyn diagnosis o salwch sy'n gysylltiedig â chanser nad oedd eu profiadau bob amser yn cyd-fynd ag amcanion cynllun Llywodraeth Cymru.

'Arweinyddiaeth genedlaethol gryfach'

Dywedodd David Rees AC, Cadeirydd y Pwyllgor: "Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion i'r Gweinidog, ac os cânt eu derbyn a'u rhoi ar waith, rydym o'r farn y byddant yn helpu i fodloni dyheadau'r cynllun.

"Mae'r pwysicaf o'r rhain, o bosibl, yn ymateb i'r pryderon a glywsom na fydd dyheadau'r Cynllun yn cael eu gwireddu tan 2016 os na fydd arweinyddiaeth genedlaethol gryfach.

"Ar sail hynny, rydym yn gofyn i'r Gweinidog sicrhau bod corff gyda chylch gwaith clir, a'r adnoddau sydd eu hangen, i ddarparu sbardun ac arweinyddiaeth ar lefel genedlaethol, gan ddwyn byrddau iechyd i gyfrif am gyflawni eu cynlluniau lleol."

Cynghrair Canser Cymru

Mae Cynghrair Canser Cymru, cyngrair o 11 o elusennau canser, wedi croesawu adroddiad y Pwyllgor gan ailadrodd y galw am arweinyddiaeth a chynllunio cenedlaethol.

Dywedodd llefarydd ar ran y gynghrair: "Mae gwahaniaeth rhwng y gwaith cynllunio a'r ddarpariaeth sy'n cael ei wneud gan fyrddau iechyd lleol, ac mae hynny, ynghyd â diffyg cynllunio cenedlaethol, wedi rhwystro'r gallu i weithredu Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser Llywodraeth Cymru, er bod hyn yn flaenoriaeth.

"Mae Cynghrair Canser Cymru yn credu na fydd dyheadau'r Cynllun Cyflawni ar gyfer Canser yn cael eu cyflawni heb gynllunio cenedlaethol, monitro, atebolrwydd a mentrau Cymru gyfan er mwyn sicrhau canlyniadau cyson i bobl sy'n cael eu heffeithio gan ganser."