Proffil o gadeirydd newydd URC, Gareth Davies

  • Cyhoeddwyd
Gareth DaviesFfynhonnell y llun, Huw Evans picture agency

Mae cyn-chwaraewr Cymru a Chaerdydd, a chyn-Brif Weithredwr rhanbarth y Dreigiau, Gareth Davies, wedi ei benodi yn gadeirydd newydd Undeb Rygbi Cymru.

Yn dilyn gyrfa lwyddiannus ar y maes chwarae yn cynrychioli Caerdydd, Cymru a'r Llewod, mae Mr Davies wedi mwynhau gyrfa amrywiol gan weithio i BBC Cymru, Clwb Rygbi Caerdydd, S4C ac Awdurdod Datblygu Cymru, ymysg eraill.

Erbyn hyn Mr Davies fydd un o'r ffigyrau mwyaf dylanwadol ym myd rygbi Cymru, wrth iddo gymryd yr awennau fel cadeirydd URC.

Caerdydd, Cymru a'r Llewod

Cafodd Gareth Davies ei eni yn 1955 yng Nghaerfyrddin ac roedd yn fachgen gyda dawn amlwg am chwaraeon o'r cychwyn cyntaf, gan chwarae criced dros ysgolion Cymru.

Wedi iddo adael yr ysgol, aeth i astudio Cemeg ym Mhrifysgol Cymru, Caerdydd, cyn mynd ymlaen i Brifysgol Rhydychen i astudio ar gyfer ei gymhwyster dysgu.

Roedd Mr Davies yn fewnwr i Glwb Rygbi Caerdydd yn ystod cyfnod amatur y gêm.

Chwaraeodd 21 gwaith dros Gymru, gan arwain y tîm cenedlaethol ar bum achlysur, ac ennill y Goron Driphlyg.

Roedd hefyd yn rhan o dîm y Llewod yn 1980 yn ystod eu taith i Dde Affrica.

Olynu Gerald Davies

Wedi iddo ymddeol o chwarae rygbi, cafodd Gareth Davies ei benodi'n bennaeth chwaraeon BBC Cymru yn 1988.

Yna yn 1994 penodwyd fel Prif Weithredwr Clwb Rygbi Caerdydd, cyn ymuno â S4C fel Golygydd Comisiynu ar gyfer Chwaraeon a Digwyddiadau.

Yn ogystal bu'n gadeirydd Cyngor Chwaraeon Cymru, cyfarwyddwr Materion Cymreig ar gyfer y Post Brenhinol ac yn 2006 ymunodd ag Awdurdod Datblygu Cymru, gan weithio fel pennaeth eu swyddfa yn Sydney, Awstralia.

Ym mis Awst 2013 cafodd Mr Davies ei benodi fel Prif Weithredwr rhanbarth Dreigiau Gwent, ac ym mis Gorffennaf eleni cafodd ei enwebu i olynu Gerald Davies ar fwrdd Undeb Rygbi Cymru.