'Pardduo enw da'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru'

  • Cyhoeddwyd
Mark Drakeford

Mae Gweinidog Iechyd Cymru, Mark Drakeford, wedi beirniadu'r Gweinidog Iechyd Prydeinig, Jeremy Hunt, gan ei gyhuddo o geisio "pardduo enw da'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, a hynny am resymau gwleidyddol".

Mae Jeremy Hunt wedi honni bod cleifion yng Nghymru'n derbyn gwasanaeth "eilradd".

Mewn llythyr agored ato, mae Mr Drakeford wedi beirniadu Mr Hunt am ddyfynnu rhannau penodol o adroddiad sydd heb ei gyhoeddi am y gwasanaeth iechyd yn y DU.

Honnodd Mr Drakeford bod y Ceidwadwyr yn "dweud celwydd" am iechyd.

Daw cyhoeddi'r llythyr wrth i'r ffrae ynglŷn â'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru rhwng y Llywodraeth Lafur ym Mae Caerdydd a'r glymblaid yn San Steffan dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr ddwysau.

'Gwasanaeth eilradd'

Yn ystod sesiwn cwestiynau iechyd yn Nhŷ'r Cyffredin dydd Mawrth ymatebodd Jeremy Hunt gwestiwn gan AS Ceidwadol Caer, Stephen Mosley, drwy ddweud bod cleifion yng Nghymru'n derbyn "gwasanaeth eilradd".

Gofynnodd Mr Mosley beth oedd y Gweinidog Iechyd am wneud i sicrhau bod ysbytai yn Lloegr yn derbyn cyfran deg o'r adnoddau, a hynny er gwaethaf yr angen i drin miloedd o gleifion o Gymru oedd yn ceisio ffoi rhag rheolaeth drychinebus y Blaid Lafur o'r GIG yng Nghymru.

Ymatebodd Mr Hunt drwy ddweud: "Am bob un claf o Loegr sy'n derbyn triniaeth mewn ysbyty yng Nghymru, mae pump o gleifion o Gymru yn derbyn triniaeth mewn ysbytai yn Lloegr, ac mae hyn yn creu pwysau enfawr.

"Rydw i wedi ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd yng Nghymru er mwyn dweud bod y GIG yn fodlon trin mwy o gleifion o Gymru, ond y broblem yw, nad ydyn nhw'n fodlon talu amdano, a dyna pam mae cleifion o Gymru'n derbyn gwasanaeth eilradd."

Ffynhonnell y llun, Llywodraeth Cymru

Ychydig oriau'n ddiweddarach, yn ystod sesiwn Cwestiynau'r Prif Weinidog yn y Senedd ym Mae Caerdydd wynebodd Carwyn Jones mwy o gwestiynau gan Aelodau'r Cynulliad am beth fydd ei lywodraeth yn wneud i wella'r GIG, a hynny'n dilyn "pryderon gwirioneddol" gan gleifion.

Dywedodd Mr Jones: "Dydw i ddim am honni nad oes gan y GIG yng Nghymru ei drafferthion, ond rydym ni fel llywodraeth wedi ymroi i fynd i'r afael â'r materion hynny."

Wrth gwestiynu'r Prif Weinidog ynglŷn â'r GIG yng Nghymru dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood, bod gan gleifion "bryderon gwirioneddol", a bod yn rhaid eu cymryd o ddifrif.

Dim yn berffaith

Ymysg y pryderon, medd Ms Wood, roedd y ffaith bod mwy na 40% o gleifion yng Nghymru yn disgwyl mwy na chwe wythnos am sgan MRI, tra bod yr un ffigwr ar gyfer Lloegr yn 6% a'r Alban yn 2%.

Dywedodd: "A ydyn ni wedi cyrraedd y pwynt ble mae cleifion yn gynyddol bryderus a morâl gweithwyr y GIG yn gwaethygu?"

Ymatebodd Mr Jones drwy ddweud na fydd beirniadu'r gwasanaeth iechyd yn y papurau newydd yn gwneud unrhyw beth i wella morâl y gweithwyr.

Aeth ymlaen i ddweud: "Dydw i ddim yn honni bod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru'n berffaith - ond dyw e ddim yn berffaith yn Lloegr 'chwaith.

"Wythnos diwethaf cafodd Ysbyty Henffordd ei disgrifio fel bod yn annigonol ac anniogel - ac mae nifer o gleifion o Gymru yn mynd yn yno."

Yn ogystal cyfeiriodd Mr Jones at arolwg diweddar oedd yn dweud bod cleifion yng Nghymru'n derbyn gofal "eithriadol naw gwaith allan o 10".