Can mlynedd ers geni Dylan Thomas
- Cyhoeddwyd
Mae yna ddathliadau a digwyddiadau yn cael eu cynnal ledled y byd ddydd Llun er mwyn nodi canmlwyddiant ers geni Dylan Thomas.
Cafodd y bardd ei eni yn Abertawe 100 mlynedd yn ôl, ac mae yna ddigwyddiadau yn ei ddinas enedigol i gofio'r dyn a'i waith.
Mae pob enghraifft o'i waith yn cael ei ddarllen ar lwyfan yn Theatr y Grand Abertawe fel rhan o ddigwyddiad Dylathon.
Hefyd mae gŵyl flynyddol Dylan Thomas yn dechrau heddiw, ac mae yna ddigwyddiadau yn Llundain ac Efrog Newydd.
Mae'r cyfan yn rhan o ddigwyddiadau sydd wedi eu trefnu dros 12 mis i gofio un o ysgrifenwyr mawr yr ugeinfed ganrif.
Ddydd Sul cafodd cynhyrchiad Michael Sheen o Dan y Wenallt ei berfformio yn Efrog Newydd - y ddinas lle bu farw Thomas ar Dachwedd 9, 1953.
Roedd y cast ar gyfer y perfformiad yn cynnwys Sheen, Kate Burton, Karl Johnson, Mark Lewis Jones, Francine Morgan a Matthew Aubrey.
Cafodd y cynhyrchiad ei ddarlledu yn fyw ar BBC Radio Wales ac mae modd ei glywed ar wefan y BBC.
'Bywyd newydd'
Dywedodd wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis, ei bod yn bryd i bobl anghofio am y fytholeg a'r straeon am fywyd ei thaid, a dechrau mwynhau ei lenyddiaeth.
Dywedodd: "Rwy'n credu bod Cymru, ac yn wir y byd, wedi dathlu'r ganrif yn fwy nac y byddwn wedi ei obeithio.
"Fy mwriad oedd ceisio rhoi bywyd newydd i waith fy nhaid, ac i roi'r ffocws yn ôl ar ei waith ysgrifenedig,
"Mae pobl yn hoff o son am y fytholeg am fy nhaid, ond yr ysgrifennu yw'r gwaddol."
"Rwy'n gobeithio eleni y bydd ei waith yn cael ei gyflwyno i genhedlaeth iau."
Dywedodd y bardd Gillian Clarke mai Dylan Thomas yw un o'r beirdd mwyaf erioed.
"Rwyf wedi darllen pob gair o waith Dylan Thomas dros y 12 mis diwethaf wrth baratoi ar gyfer eleni.
"Rwy'n meddwl bod Dylan Thomas, Auden a TS Elliot wedi newid popeth."