Trefniadau iechyd meddwl: trafferth delio gyda chynnydd
- Cyhoeddwyd
Mae Cynghorau a Byrddau iechyd yng Nghymru yn cael trafferth delio gyda nifer fawr o geisiadau ar gyfer asesiadau Trefniadau Diogelu rhag Colli Rhyddid (TDCR), yn dilyn cynnydd mawr eleni.
Pwrpas TDCR yw sicrhau nad yw pobl sydd â rhwystrau ar eu rhyddid er eu budd eu hunain - pobl sydd â dementia, awtistiaeth neu broblemau iechyd meddwl - yn dioddef oherwydd rhwystrau sy'n amhriodol.
Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn dweud bod cynghorau yn cael trafferth ymdopi oherwydd toriadau i gyllidebau, ac nad yw awdurdodau yn gallu delio gyda'r ceisiadau o fewn y terfynau amser cyfreithiol.
Yn ôl y Gweinidog Iechyd mae cynllun newydd wedi ei lunio i symleiddio'r broses TDCR.
Amddiffyn hawliau
Roedd dyfarniad nodedig gan y Goruchaf Lys ym mis Mawrth yn pwysleisio bod angen ystyried achosion unigol, yn hytrach na defnyddio asesiadau TDCR cyffredinol i bobl sydd dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol.
Roedd y dyfarniad yn galw am sicrhau nad yw'r ddeddf yn effeithio ar eu rhyddid yn ormodol.
O ganlyniad, mae cynnydd mawr wedi bod yn nifer y ceisiadau am asesiadau TDCR i bobl mewn gofal yng Nghymru.
Mae'r TDCR i fod i ddarparu asesiad annibynnol o gynlluniau gofal pobl fregus, gan weithwyr iechyd proffesiynol.
Mae ffigyrau sydd wedi dod i law BBC Cymru yn dangos bod 10 gwaith gymaint o geisiadau ar gyfer asesiadau TDCR yn y rhan fwyaf o ardaloedd Cymru, gyda chynnydd uwch fyth mewn rhai mannau.
Cynnydd mewn ceisiadau
Mae sawl rhan o Gymru wedi gweld cynnydd yn nifer y ceisiadau dros y dair blynedd diwethaf, gan gynnwys:
Cafodd y ffigyrau eu mesur rhwng Ebrill a Mawrth, gyda'r ffigyrau ar gyfer 2014-15 wedi eu casglu tan fis Medi.
Gofynion amser
Dylai cynghorau a byrddau iechyd gwblhau asesiadau o fewn 21 diwrnod, neu saith niwrnod os yw'n achos brys. Gall awdurdodau fod yn agored i achosion llys os nad ydyn nhw'n cyrraedd y gofynion yma.
Yn ôl Cymdeithas y Gweithwyr Cymdeithasol yng Nghymru, mae o leiaf pump awdurdod lleol yng Nghymru wedi cysylltu gyda nhw yn ddiweddar i ofyn am weithwyr llawrydd i brosesu'r holl geisiadau ychwanegol.
Mewn datganiad, dywedodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru: "Rydyn ni'n gwybod bod y galw am asesiadau ddeg gwaith yn uwch.
"Bydd hynny yn rhoi pwysau sylweddol ychwanegol ar ein gweithwyr cymdeithasol, sydd dan bwysau yn barod, yn nhermau llwyth gwaith a chost, yn enwedig yn sgil y setliad cyllideb ddrafft i lywodraeth leol yng Nghymru sy'n gadael cynghorau hefo toriad arall o £220 miliwn i'w cyllidebau."
Diffyg ymwybyddiaeth
Mae adroddiad newydd gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru (AGGCC) ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC), yn dangos nad yw ysbytai a chartrefi gofal bob tro yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau o dan y canllawiau TDCR.
Yn ôl yr adolygiad, mae angen gwell ymwybyddiaeth a dealltwriaeth mewn cartrefi gofal ac ysbytai o sut mae'r TDCR yn gallu cefnogi pobl sydd eu hangen.
Daeth i'r canlyniad hefyd bod angen gwell hyfforddiant am eu defnydd.
Dywedodd Prif Arolygydd AGGCC, Imelda Richardson, nid yw'n anarferol i orfod dod a staff allanol i mewn i leihau pwysau ar y system.
"Os oes pwysau ar y system yna bydd peth oedi," meddai.
"Ond mae'n bwysig i geisio aros o fewn terfynau rhesymol o amser, gan ein bod ni'n delio hefo pobl fregus iawn a phryderon eu teuluoedd."
Dywedodd y Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, bod y gallu i wneud dewisiadau ein hunain "yn rhan hanfodol o fywyd i fod dynol".
"Fodd bynnag, os yw'r gallu i wneud a chyfleu penderfyniadau yn dechrau cael ei cholli, mae'n hanfodol bod y fframweithiau cyfreithiol sy'n bodoli i amddiffyn ein hurddas a'n hawliau dynol yn cael eu defnyddio i'r eithaf.
"Mae cynllun gweithredu wedi cael ei lunio i symleiddio'r broses TDCR i'w gwneud yn gymesur ac yn amddiffynnol o fewn y ffiniau cyfreithiol, a thrwy ymgorffori'r Ddeddf Galluedd Meddyliol yn y codau ymarfer perthnasol."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd13 Hydref 2014
- Cyhoeddwyd19 Mehefin 2014