Arwydd Gaeleg yn lle un Cymraeg mewn siop yn Abertawe
- Cyhoeddwyd

Cafodd yr arwydd ei osod y tu allan i archfarchnad Asda yn Nhreforys
Mae archfarchnad wedi gaddo tynnu arwydd ddwyieithog i lawr o siop yn Abertawe, gan ei fod yn cynnwys gair mewn Gaeleg yn hytrach na'r Gymraeg.
Cafodd yr arwydd, sy'n dweud 'Parcadh - Parking', ei osod y tu allan i siop Asda yn Nhreforys, Abertawe.
Mae Asda wedi gaddo cywiro'r arwydd, gan ddweud: "Diolch i'r siopwr craff wnaeth sylwi ar y camgymeriad. Bydd arwyddion newydd yn cael eu gosod yn fuan."
Daw'r camgymeriad ddyddiau ar ôl i archfarchnad yn Aberystwyth ymddiheuro am arwydd Cymraeg ar beiriant arian oedd yn cynnig "codiad am ddim".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Hydref 2014