Chwarter yn ennill llai na'r cyflog byw
- Cyhoeddwyd
Mae un allan o bob pedwar o weithwyr yng Nghymru'n ennill llai na'r cyflog byw, y swm sydd ei angen i dalu am gostau sylfaenol bywyd.
Mae'r gyfradd o £7.85 yr awr, sydd wedi'i osod gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Loughborough, 21% yn uwch na'r lleiafswm cyflog cenedlaethol o £6.50.
Dywedodd swyddog cenedlaethol TUC Cymru, Julie Cook, bod cyflogau isel yn cael "effaith andwyol" ar fywydau cannoedd o filoedd o deuluoedd.
Mae mudiad CBI Cymru, sy'n cynrychioli busnesau, wedi dweud bod y cyflog byw yn cynnig canllaw defnyddiol o ran cyflogau, ond na all llawer o gwmniau fforddio talu mwy na'r isafswm cyflog.
Dywedodd Llywodraeth y DU eu bod nhw'n cefnogi cwmniau sy'n talu'r cyflog byw, "ond dim ond pan mae hynny'n fforddiadwy, a ddim ar draul swyddi."
1,000 o gyflogwyr
Yn ôl yr adroddiad blynyddol diweddaraf ar gyflogau gan KPMG, mae tua 261,000 o weithwyr yng Nghymru'n ennill llai na'r cyflog byw.
Ar draws y DU mae 22% o weithwyr yn ennill llai na'r cyflog byw.
Mae'r cyflog byw yn safon gwirfoddol sydd wedi'i fabwysiadu gan dros 1,000 o gyflogwyr ar draws y DU, gyda 35,000 o weithwyr yn elwa o hynny.
Dywedodd Ms Cook y dylai pobl dderbyn "tâl teg am ddiwrnod teg o waith", gan ddweud y byddai hynny'n helpu i roi hwb i'r economi.
Yn ôl Ms Cook: "Mae hi'n amser i gyflogwyr cyfrifol fabwysiadu'r safon yma, sy'n galluogi gweithwyr i ennill digon i allu byw bywyd safonol."
'Canllaw defnyddiol'
Mae'r cyflog byw yn cael ei gyfrifo gan y Ganolfan Ymchwil Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Loughborough, tra bod y gyfradd uwch ar gyfer Llundain yn cael ei chyfrifo gan Awdurdod Llundain Fawr.
Dywedodd Cyfarwyddwr CBI Cymru, Emma Watkins, bod y cyflog byw yn "ganllaw defnyddiol", ond pwysleisiodd bod y lleiafswm cyflog cenedlaethol yn derbyn "cefnogaeth gref" gan y gymuned fusnes.
Ychwanegodd: "Yn hytrach na mynnu bod cwmnïau'n rhoi codiad cyflog i'w gweithwyr - codiad cyflog na all llawer ei fforddio - dylid edrych ar ffyrdd o godi safonau byw mewn modd cynaliadwy."
Dywedodd llefarydd ar ran Adran Busnes, Diwydiant a Sgiliau'r DU: "Rydym yn cefnogi busnesau sy'n dewis talu'r cyflog byw, ond dim ond pan mae hynny'n fforddiadwy, a ddim ar draul swyddi."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd24 Mehefin 2014
- Cyhoeddwyd1 Ebrill 2014
- Cyhoeddwyd8 Tachwedd 2013