Gwasanaeth iechyd: Safonau gofal newydd
- Cyhoeddwyd
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgelu safonau newydd, i geisio "sicrhau bod pawb yng Nghymru yn cael yr un lefel o ofal ansawdd uchel" gan y gwasanaeth iechyd yma.
Fe fydd 'na ymgynghoriad cyhoeddus o 12 wythnos ar y safonau, gafodd eu cyhoeddi bnawn Llun.
Mewn datganiad, fe ddywedodd llywodraeth Cymru fod y safonau "yn nodi beth sydd angen i GIG Cymru ei wneud i ddangos ei fod yn gwneud y peth cywir, yn y ffordd gywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gyda'r staff cywir."
Daw'r cynllun newydd â safonau Hanfodion Gofal a'r safonau iechyd at ei gilydd mewn un fframwaith.
Y themâu newydd yw:
Aros yn iach - Mae pobl yng Nghymru yn cael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i reoli eu hiechyd corfforol a'u hiechyd meddwl eu hunain;
Gofal diogel - Mae pobl yng Nghymru yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed ac yn amddiffyn eu hunain rhag unrhyw niwed posib;
Gofal effeithiol - Mae pobl yng Nghymru yn cael y gofal a'r cymorth cywir mor lleol â phosib ac yn cael eu galluogi i gyfrannu at wneud y gofal hwnnw yn llwyddiannus;
Gofal gydag urddas - Mae pobl yng Nghymru yn cael eu trin ag urddas a pharch ac yn trin eraill yn yr un modd;
Gofal amserol - Mae pobl yng Nghymru yn cael mynediad at wasanaethau mewn da bryd ar sail angen clinigol ac mae ganddynt ran yn y penderfyniadau am eu gofal;
Gofal unigol - Mae pobl yng Nghymru yn cael eu trin fel unigolion sydd â'u hanghenion a'u cyfrifoldebau eu hunain;
Staff ac adnoddau - Mae pobl yng Nghymru yn gallu dod o hyd i wybodaeth am sut mae'r GIG yn cael ei adnoddau ac yn gwneud defnydd gofalus o'r adnoddau hynny.
Fe gafodd y safonau newydd eu datblygu mewn ymateb i'r adroddiad 'Darparu Gofal Diogel, Gofal Tosturiol', sef ymateb Cymru i ymchwiliad Francis i fethiannau yn Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Canolbarth Swydd Stafford.
'Ansawdd rhagorol'
Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Mark Drakeford:
"Bob dydd, mae miloedd o bobl ar draws Cymru yn cael gofal diogel a thosturiol o'r radd flaenaf yn ein GIG.
"Mae gan bob person yng Nghymru sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd neu sy'n cefnogi eraill i wneud hynny, boed mewn ysbyty, gofal sylfaenol, yn y gymuned neu yn eu cartref eu hunain, yr hawl i dderbyn gofal o ansawdd rhagorol.
"Yng Nghymru, fel yn rhannau eraill y DU, mae llawer o enghreifftiau o ofal iechyd da. Serch hynny, mae enghreifftiau o bobl sydd wedi cael eu gadael i lawr gan ansawdd a diogelwch y gofal a gânt.
"Mae'n bwysig bod y Fframwaith Safonau Iechyd newydd i Gymru yn cael ei ddatblygu ac yn eiddo i bobl sy'n darparu'r gwasanaethau a'r rhai sy'n eu defnyddio. Mae angen i'r GIG yng Nghymru ddangos ei fod yn gwneud y peth cywir, yn y ffordd gywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gyda'r staff cywir.
"Er mwyn i bobl Cymru ddeall beth i'w ddisgwyl wrth iddynt gael mynediad at wasanaethau iechyd a beth yw eu cyfrifoldebau, mae angen i'r safonau iechyd hyn ysgogi gwelliannau parhaus o ran ansawdd.
"Mae'r safonau'n nodi'r hyn y gall pobl ei ddisgwyl, p'un a ydynt yn derbyn gofal iechyd neu'n darparu gofal iechyd."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd1 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd3 Tachwedd 2014
- Cyhoeddwyd21 Hydref 2014