Ateb y Galw: Ynyr Roberts

  • Cyhoeddwyd
BrigynFfynhonnell y llun, Brigyn.com
Disgrifiad o’r llun,

Brigyn - Ynyr a'i frawd Eurig yn y cefndir

Tro Ynyr Roberts o'r band Brigyn yw hi i ateb rhai o gwestiynau busneslyd Cymru Fyw yr wythnos hon. Mi gafodd Ynyr ei enwebu gan Meinir Gwilym.

Beth ydi dy atgof cyntaf?

Mae gen i atgof o fynd ar wyliau i Dy Ddewi ar ddiwrnod braf o haf. Roeddwn i'n dair a hanner ar y pryd.

Ces i'r cyfle i fynd yno llynedd, a daeth yr atgofion cynnar hynny i gyd yn ôl i mi!

Pwy oeddet ti'n ei ffansio pan yn ieuengach?

Roedd gen i crush ar yr actores Alicia Silverstone pan oeddwn i yn yr ysgol. Cofio darllen erthygl amdani yn FHM neu rhyw gylchgrawn a meddwl "wid-a-wiw"!

Yn anffodus, dwi'm yn meddwl bod hi 'di actio mewn un ffilm dda - neu falle bo fi wedi bod yn rhoi gormod o sylw iddi hi yn lle ceisio dilyn plot y ffilms?! Haha!

"Wid-a-wiw"! Ond mae Ynyr wedi ei siomi efo ffilmiau Alicia SilverstoneFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

"Wid-a-wiw"! Ydi Alicia yn gwneud i Ynyr golli'r plot?

Beth oedd y digwyddiad a gododd y mwya' o gywilydd arnat ti erioed?

Dwi yn dueddol o ddweud a gwneud dipyn o bethau sy'n codi cwilydd arna i! Allai ddim meddwl am un digwyddiad mawr, ond dwi'n cael trafferthion enbyd gyda fy enw tu allan i Gymru, yn enwedig pan oeddwn i yn y brifysgol yn Sheffield - a thiwtoriaid wedi fy ngalw yn bethau digon tebyg i wiener ac onion.

Sawl tro dwi wedi tynnu coes fy rhieni am ddewis enw anghyffredin i mi, ond yn amlwg mae fy enw wedi siapio cwrs fy mywyd. A mae bywyd yn braf, felly allai'm cwyno!

Pryd oedd y tro diwethaf i ti grio?

Ar ôl derbyn newyddion trist iawn am ffrind da, Derec Williams, a fu farw ddiwedd Mai eleni. Roedd o'n dipyn o arwr i ni "frodyr Brigyn" ac i lawer o bobl eraill yn sicr.

Oes gen ti unrhyw arferion drwg?

Dwi'n siŵr fod gen i ddigon. Dwi'n gwybod fy mod i o hyd yn cael fy hun dan bwysau gwaith, oherwydd yr hen arferiad drwg o ddweud "ie" i bopeth, ac wedyn trio meddwl am ffordd i'w cyflawni wedyn!!

Onion
Disgrifiad o’r llun,

Oedd "Onion" yn dod a dagrau i lygaid ei diwtoriaid yn y coleg yn Sheffield?

Dy hoff ddinas yn y byd?

Caerdydd, heb os! Erbyn hyn, dyma fy nghartref, yma rwy'n treulio rhan fwyaf o'm mywyd a mae'n ddinas difyr, cyfeillgar a chyfrous i fyw ynddi.

Y noson orau i ti ei chael erioed?

Rydw i am ateb y cwestiwn hwn o safbwynt, noson orau'r band Brigyn - ac honno, heb os yn y Ship yn Aberdaron, tua diwedd y flwyddyn 2010.

Dyma un o'r gigs mwya' cofiadwy i mi - roedd Lewis, sydd o Aberdaron yn chwarae'r dryms efo ni'r noson honno - a buon ni'n canu am tua 4 awr, gan ganu pob cân allwn ni gofio a hyd yn oed caneuon pobl eraill fel 'Umbrella' gan Rhianna, 'Billie Jean' a 'Thriller' gan Michael Jackson, i enwi dim ond rhai!

RihannaFfynhonnell y llun, You Tube
Disgrifiad o’r llun,

Go brin y gwelwch chi Rihanna ar ddiwrnod gwlyb yn Aberdaron ond efallai y bydd Brigyn yno yn canu un o'i chaneuon enwocaf!

Oes gen ti datŵ?

Does gen i ddim tatŵ, a dim cynlluniau i gael un yn y dyfodol ar hyn o bryd.

Beth yw dy hoff lyfr?

Prin yw'r amser i ddiddori fy hun wrth ddarllen llyfr dyddiau hyn, ond byddaf yn darllen dwy neu dair stori i'r plant bob nos, a'r llyfr dwi'n hoffi troi ato yn aml yw Congrinero.

Pa ddilledyn fyddet ti'n methu byw hebddo?

Rwyn hoff o wisgo hwdis Cowbois. Rwyf wrth fy modd efo nhw - gan eu bod efo pocedi i ddal fy stwff i gyd!

Beth oedd y ffilm ddiwethaf welais di?

Bues i'n gwylio 'Gone Girl' yn y sinema yn ddiweddar - roedd hi'n hwyr ar nos Sul a finna 'di blino'n lân - ond roedd y ffilm hon di llwyddo i fy nghadw yn effro tan y diwedd! Dwys, difyr a doniol (weithiau)!

Gone GirlFfynhonnell y llun, Arall
Disgrifiad o’r llun,

Mi wnaeth Ynyr fwynhau 'Gone Girl'. Falle ei bod hi'n help nad oedd Alicia Silverstone ynddi hi!

Dy hoff albwm?

Rwyf wastad yn hoffi gwrando ar "New Adventures in Hi-Fi" gan REM. Mae hi'n albym wych er nad yn un o'r rhai poblogaidd yn eu catalog eang o albyms.

Cwrs cyntaf, prif gwrs neu bwdin - pa un ydi dy ffefryn?

Prif gwrs i mi bob tro - rwyf yn hoff iawn iawn o bob math o fwyd, ac yn amlwg mae mwy i'w gael yn y prif gwrs!!

Pa un sydd orau, anfon neges tecst neu ffonio?

Ffonio sydd orau bob tro. Yn aml, mae'n hawdd cam-ddehongli neges destun.

Petaset ti'n gallu bod yn rhywun arall am ddiwrnod, pwy fyddai fo/hi?

Allai'm meddwl am neb yn benodol - ond braf byddai bod yn sgidia' unrhyw bersonoliaeth chwaraeon sydd ar fin cipio prif wobr yn y gêm mae nhw'n chwarae neu'r gamp mae nhw'n ei gwneud, mae'n siŵr ei fod yn brofiad anhygoel ar ôl cymaint o waith caled!

Pwy fydd yn Ateb y Galw yr wythnos nesaf?

Fflur Dafydd.

Mario GotzeFfynhonnell y llun, Getty Images
Disgrifiad o’r llun,

Sut brofiad fyddai bod yn esgidiau Mario Gotze yn yr eiliadau ar ôl iddo ennill Cwpan y Byd i'r Almaen yr haf yma?