Amnest: Annog pobl i roi'r gorau i'w gynnau
- Cyhoeddwyd
Mae pobl yng Nghymru'n cael eu hannog i "roi'r gorau i'w gynnau" didrwydded yn ystod amnest sy'n para pythefnos.
Mae'r ymgyrch, sy'n cychwyn ddydd Llun, yn gofyn i bobl roi'r gorau i ynnau nad oes arnyn nhw eu heisiau neu ynnau anghyfreithlon.
Dywed yr heddlu mai bwriad y cynllun yw ceisio atal gynnau "rhag cyrraedd y dwylo anghywir".
Ni fydd y rheiny sy'n ildio arfau yn ystod yr ymgyrch yn cael eu herlyn am fod ag arfau anghyfreithlon yn eu meddiant.
Menter genedlaethol
Dywed heddluoedd Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent bod yr amnest yn gyfle i bobl gael gwared ar ynnau sy'n parhau yn eu meddiant er gwaethaf y ffaith bod eu trwydded wedi dod i ben, a hynny mewn modd diogel.
Yn ogystal mae'n gyfle i gael gwared ar ynnau oedd yn berchen i aelod o'r teulu sydd bellach wedi marw.
Dywedodd Prif Gwnstabl Cynorthwyol Heddlu De Cymru, Nikki Holland: "Nid yw troseddau'n ymwneud â gynnau'n rhan o fywyd bob dydd cymunedau Dyfed-Powys, De Cymru a Gwent, ac rydym yn ddiolchgar am hynny.
"Ond rydym yn cefnogi'r fenter genedlaethol hon er mwyn cynnig cyfle i bobl ildio'i gynnau nad oes arnyn nhw eu heisiau neu sy'n ddi-drwydded."