'Angen gwella sgiliau Mathemateg' yn ysgolion Cymru

  • Cyhoeddwyd
Huw Lewis
Disgrifiad o’r llun,

Mae Huw Lewis AC wedi trefnu cynhadledd i drafod dyfodol addysg fathemategol yng Nghymru

Mae'r Gweinidog Addysg wedi dweud wrth BBC Cymru fod angen mwy o ymdeimlad o frys i wella sgiliau mathemateg mewn ysgolion yng Nghymru.

Roedd Huw Lewis yn ymateb i adroddiad a gyhoeddwyd heddiw a ganfu fod gallu rhifol disgyblion "ar y gorau, yn gyffredin" yn dros hanner yr ysgolion a arolygwyd yng Nghymru y llynedd.

Mae'r corff arolygu ysgolion, Estyn, yn dweud fod angen gwneud mwy i wella sgiliau mathemateg ar draws yr holl bynciau.

Mae llywodraeth Cymru wedi rhoi'r nod o wella sgiliau rhifedd fel un o'u prif flaenoriaethau addysg.

Cyfwyno rhagleni cenedlaethol

Cyflwynodd y llywodraeth raglen Rhifedd Genedlaethol yn 2012.

Ers cyflwyno'r rhaglen hon, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyflwyno:

  • Profion rhifedd cenedlaethol statudol ar gyfer disgyblion o flwyddyn 2 i flwyddyn 9, gan ganolbwyntio ar sgiliau rhifedd gweithdrefnol yn unig (yn Mai 2013)

  • Rhaglen cymorth genedlaethol i helpu i sicrhau gweithrediad llwyddiannus y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol (ym Mehefin 2013)

Mewn cyfweliad gyda BBC Cymru, dywedodd Huw Lewis:

"Mae angen mwy o ymdeimlad o frys mewn ysgolion. Mae'n hen bryd bellach i benaethiaid yn benodol i ofyn wrth eu hunain os yw eu hysgolion yn gweithredu yn ddigon da o ran y polisi rhifedd, a hynny drwy'r ysgol gyfan, neu a oes angen i ni roi sylw brys i hyn?

"Mae'n anodd meddwl am esgusodion am y diffyg dealltwriaeth yn y maes penodol yma."

Yn ôl Estyn, er fod y sefyllfa yn gwella, mae gormod o ddisgyblion yn ei chael yn anodd i ddefnyddio technegau rhif sylfaenol fel 'rhannu' yn dal i fod.

Ffynhonnell y llun, PA

O ganlyniad, mae Mr Lewis wedi trefnu cynhadledd i athrawon mathemateg yn y flwyddyn newydd:

"Rydw i'n galw ynghyd holl athrawon a phennaethiaid mathemateg Cymru ar 28 Ionawr yng Nghaerdydd. Bydd siaradwyr arbenigol yn cael wu gwahodd draw i drafod y materion hyn. Mae angen i ni fynd i'r afael â'r system o fathemateg sy'n weithredol yn ysgolion Cymru. "

Beth sydd gan Estyn i ddweud?

Mae arolygwyr Estyn wedi bod yn edrych ar effeithlonrwydd strategaethau rhifedd ac wedi mesur i ba raddau y mae ysgolion wedi gwneud cynnydd ers arolwg sylfaenol y llynedd.

Maent wedi canfod bod ychydig llai na hanner yr ysgolion a arolygwyd yn 2013-2014 â disgyblion yn datblygu sgiliau rhifedd yn 'dda' neu'n 'well'. Yn yr ysgolion sy'n weddill, dim ond 'gweddol' oedd cynydd y disgyblion.

Yn mwyafrif ysgolion yr arolwg, llwyddodd disgyblion i arddangos sgiliau rhifedd cadarn ac yn gyffredinol roeddynt yn gallu eu trosglwyddo ar draws y cwricwlwm ac yn eu defnyddio i ddadansoddi data a datrys problemau.

Ond, nid yw sgiliau rhesymu rhifiadol disgyblion yn dal i fod yn ddigon cryf - mae gormod o ddisgyblion yn anghyfarwydd â gweithdrefnau datrys problemau megis adnabod, casglu, trefnu, cyfrifo, dehongli a gwerthuso.

Mae arolygwyr hefyd yn dweud nad oedd canfyddiadau eu harolygiadau yn cefnogi'r cynnydd mewn safonau adroddwyd yn asesiadau athrawon dros y blynyddoedd diwethaf.

Cymru a Lloegr

Y llynedd, er gwaethaf i'r bwlch rhwng Cymru a Lloegr mewn perfformiad TGAU leihau yn gyffredinol, mewn mathemateg, mae'r bwlch wedi mwy na dyblu.

Yn 2013, cafodd 52.8% o ddisgyblion yng Nghymru yn A * -C mewn Mathemateg, ond erbyn eleni mae'r ffigwr wedi gostwng i 50.6%.

Cododd y ffigwr yn Lloegr am yr un canlyniadau o 57.7% yn 2013 i 63% eleni.