Gofal iechyd meddwl pobl ifanc 'methu delio â'r galw'
- Cyhoeddwyd
Ni all gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc yng Nghymru ddelio gyda'r galw, yn ôl pwyllgor o Aelodau Cynulliad.
Yn dilyn ymchwiliad diweddar gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, mae plant a'u rhieni wedi dweud nad yw Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a'r Glasoed (CAMHS) yn ddigonol yng Nghymru.
Ymysg y pryderon gafodd eu codi oedd nad oes digon o wasanaethau ar gael, a bod plant sydd ddim yn cyrraedd y gofynion meddygol yn wynebu trafferthion mawr.
Mewn ymateb, mae'r Gweinidog Iechyd, Mark Drakeford, wedi cyhoeddi y bydd adolygiad "cynhwysfawr" o wasanaethau CAMHS yng Nghymru.
Pryderon rhieni
Daeth y pryderon i'r amlwg wedi ymchwiliad gan y pwyllgor i wasanaethau arbenigol i blant a phobl ifanc.
Cafodd pobl ifanc a rhieni eu holi, gan ddod i'r casgliadau:
Nad oes digon o wasanaethau CAMHS yn cael eu darparu i gwrdd ag anghenion pobl ifanc yng Nghymru;
Mae pobl ifanc nad ydynt yn cwrdd â'r meini prawf i dderbyn gwasanaethau CAMHS yn wynebu trafferthion pellach - gan gynnwys amseroedd aros hir a'r defnydd o feddyginiaethau presgripsiwn;
Mae diffyg gwasanaethau i bobl ifanc sydd ddim yn cyrraedd meini prawf y 'model meddygol', ac felly mae lefel sylweddol o bobl yn cael eu methu.
Ym mis Mawrth, dywedodd arbenigwraig mewn iechyd plant bod llawer o bobl dda yn gweithio yn y maes, ond eu bod yn dioddef oherwydd diffyg adnoddau.
Yn ôl mam i ferch yn ei harddegau o ogledd Cymru, mae'r system bresennol yn annigonol.
"Diffyg cefnogaeth a dealltwriaeth yn y gymuned. Maen nhw'n son am y gofal yn y gymuned ond dydi o ddim yna i fod yn onest, dydi o ddim.
"Ar adegau dydyn nhw ddim ar gael pan mae'r sefyllfa ar ei waetha. Dwi'n gw'bod o brofiad, dwi 'di ffonio nhw fy hun lawer gwaith naw o gloch yn y bora a gofyn 'Plîs...allwch chi ein helpu ni? Mae'n fore drwg....mae hi'n crio...mae hi'n dweud ei bod am neud diwedd ar ei hun....mae ganddi dabledi...neu efo cyllell neu wbath...neu mae'n rhedeg dŵr yn y bath i drio boddi ei hun.'
"Dim byd ond peiriant ateb a lwcus os gewch chi nhw i'ch ffonio chi nôl.
"Problem y system yn ehangach ydi o. Yn amlwg maent yn cael eu cyfyngu i faint o blant maen nhw'n gallu ymdrin â nhw.
"Rhaid bod a rhyw lefel o ddifrifoldeb i gael mynd yna [i gael gofal]. Ond mae hyn yn anghywir, ddylsa bod 'na fwy ar eu cyfer yn y gymuned.
"Ddim yn driniaeth one size fits all.
"Lawer gwaith dwi 'di bod yn teimlo fel eistedd lawr a crio. Ond 'di ista' lawr a crio ddim yn helpu fy mhlentyn i.
"Mae 'na ormod o blant ifanc yn colli eu bywydau oherwydd y system sy'n annigonol ar eu cyfer."
'Cyfle mawr'
Dywedodd Cadeirydd y pwyllgor, Ann Jones AC, ei bod hi'n gyfnod pwysig i ddyfodol gwasanaethau CAMHS ar hyn o bryd.
"Mae'n cynnig cyfle mawr ei angen i foderneiddio'r gwasanaeth fel ei fod yn addas i'r diben ac yn gallu diwallu anghenion plant a phobl ifanc yn y Gymru fodern.," meddai.
"Rydym wedi ymrwymo'n llawn i graffu ar gynnydd Llywodraeth Cymru wrth weithredu'r newidiadau sylweddol sydd eu hangen i wella gwasanaethau CAMHS yn ehangach, a byddwn yn dychwelyd at y mater i fonitro cynnydd a sicrhau bod yr agenda foderneiddio yn cael ei rhoi ar waith ar amser, yn ôl y bwriad."
Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi beirniadu'r canfyddiadau, gan ddweud bod pobl ifanc yng Nghymru wedi dioddef "methiannau parhaus", ac nad oes digon o arian yn cael ei wario ar wasanaethau yng Nghymru.
Dywedodd Aled Roberts AC: "Mae gwahaniaeth amlwg mewn gwariant iechyd meddwl. Mae lefel y gwariant i bob plentyn ymhell y tu ôl i lefel oedolion a chleifion hyn.
"Galla i weld dim rheswm dilys i hynny ddigwydd a dylid edrych ar y mater fel mater o frys."
Ychwanegodd bod "diffyg gwasanaethau" i bobl ifanc nad ydynt yn cwrdd â'r gofynion, a bod y gofynion hynny "yn rhy gul ac yn eithrio llawer o bobl sydd angen gofal".
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Mawrth 2014
- Cyhoeddwyd11 Rhagfyr 2013