£800,000 i greu canolfannau i ddatblygu'r iaith Gymraeg
- Cyhoeddwyd

Mae Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones wedi datgelu faint o arian fydd yn cael ei fuddsoddi i sefydlu canolfannau iaith ar draws y wlad.
Hybu pobl i ddefnyddio'r Gymraeg yn eu bywydau bob dydd ydy nod y cynllun, gafodd ei gyflwyno mewn digwyddiad yn Llanelli fore dydd Mercher.
Bydd dros £800,000 yn cael ei roi i sefydlu a datblygu canolfannau i ddysgu'r Gymraeg yn ystod 2015.
Mae'r arian, sy'n dod gan y llywodraeth, yn cael ei roi i bedair canolfan yng Nghymru.
Mae'r arian yn rhan o'r £1.25m gafodd ei gyhoeddi yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym mis Awst.
Yn ôl y llywodraeth, y bwriad yw rhoi cyfle i awdurdodau lleol, colegau a phrifysgolion greu "canolfannau deinamig lle bydd pobl yn gallu dysgu neu ymarfer eu Cymraeg".
Y prosiectau fydd yn rhannu'r arian yw:
Cyngor Ynys Môn (£138,723): Datblygu canolfannau'r sir ar gyfer dysgu Cymraeg i oedolion
Prifysgol y Drindod Dewi Sant (£300,000): Prynu adeilad yng nghanol Caerfyrddin i greu canolfan iaith amlbwrpas
Cyngor Sir Gaerfyrddin (£70,000): Datblygu canolfan iaith amlbwrpas ar y cyd gyda phartneriaid
Coleg Cambria (£300,000): Canolfan i ddysgu sgiliau Cymraeg i'r gweithle, i wella cyfleoedd dysgu i fusnesau yng nghanol Wrecsam.

Yng nghanol tref Wrecsam, y bwriad yw creu canolfan i ddysgu sgiliau Cymraeg sy'n berthnasol i'r gweithle

Bydd y ganolfan yn Wrecsam yn cael ei gweithredu gan Goleg Cambria
Yng Nghaerfyrddin, bydd yr arian yn galluogi Prifysgol y Drindod Dewi Sant i brynu adeilad yng nghanol y dref a'i droi'n ganolfan gymunedol er mwyn hyrwyddo'r Gymraeg yn yr ardal.
Dywedodd Gwilym Dyfri Jones, Dirprwy Is-Ganghellor Cysylltiol oedd hefyd yn gyfrifol am lunio cais ar ran y Brifysgol, mai "dwyieithogi Caerfyrddin gan ganolbwyntio'n benodol ar wneud y Gymraeg yn fwy gweladwy a chlywadwy o gwmpas y dref" oedd prif nod y ganolfan.
Ychwanegodd: "Dymuniad y Brifysgol yw gweld y ganolfan yn datblygu'n ffocws ar gyfer y Gymraeg yn nhref Caerfyrddin ac y caiff ei phresenoldeb effaith gadarnhaol ar sefydliadau a busnesau eraill o fewn y dref."
Gobaith y brifysgol yw agor y ganolfan newydd yn swyddogol ym mis Mawrth 2015.

Mae Carwyn Jones yn dweud y bydd canolfannau Cymraeg yn chwarae rhan bwysig i hwyluso defnydd o'r iaith o ddydd i ddydd
Mae'r Llywodraeth yn dweud bod yr arian yn helpu i wireddu eu polisi 'Bwrw Mlaen' - a'i nod o hyrwyddo'r Gymraeg mewn bywyd bob dydd a chynyddu buddsoddiad mewn sefydliadau sy'n hybu defnydd o'r iaith, dolen allanol.
Yn ôl y Prif Weinidog, Carwyn Jones mae annog pobl i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd "yn rhan ganolog o'n hymrwymiadau yn Bwrw Mlaen".
"Bydd y prosiectau dwi'n eu cyhoeddi heddiw yn creu canolfannau dysgu deinamig yn ein trefi a'n cymunedau, sef canolfannau a fydd yn ganolbwynt ymarferol ar gyfer hybu'r iaith ymhlith pobl o bob oed."
Un canolfan fydd yn elwa o'r buddsoddiad yn Sir Gaerfyrddin yw Y Lle yn Llanelli.
Dywedodd Mr Jones: "Bydd canolfannau megis 'Y Lle' yn Llanelli yn chwarae rhan allweddol yn yr ymgyrch i hybu'r defnydd o'r Gymraeg. Bydd yn cynnig cyfle i bobl ymarfer eu Cymraeg a meithrin eu hyder.
"Dw i'n edrych ymlaen at glywed sut mae pob un o'r prosiectau hyn yn datblygu yn ystod y misoedd nesaf."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd6 Awst 2014