'Gall isafswm pris alcohol arbed £880m i Gymru'

  • Cyhoeddwyd
Alcohol

Byddai cyflwyno isafswm pris alcohol o 50c i bob uned yn arbed £880m i economi Cymru, oherwydd y lleihad mewn troseddu a salwch yn ôl adroddiad newydd.

Mae'r adroddiad, gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, yn awgrymu y byddai gosod isafswm pris yn lleihau'r marwolaethau o ganlyniad i alcohol i tua 50 y flwyddyn, ar ôl 20 mlynedd.

Daeth ymchwilwyr o Brifysgol Sheffield i'r canlyniad y byddai isafswm pris yn lleihau defnydd alcohol o 4% yr wythnos.

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru bod yr adroddiad yn dangos y "manteision sylweddol i iechyd y genedl" o osod pris o'r fath.

Effaith sylweddol

Daw'r adroddiad i'r canlyniad y byddai gosod isafswm o 50c i bob uned yn cael effaith sylweddol ar arferion gwario pobl yng Nghymru, yn ogystal ag arbed £882m i'r economi.

Byddai'r arbedion yn dod oherwydd lleihad "niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol, gan gynnwys marwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol, cyfnodau mewn ysbyty, troseddau ac absenoldebau yn y gweithle, a'r costau sy'n gysylltiedig".

Disgrifiad o’r llun,

Ni fyddai'r newid yn effeithio ar bobl sy'n yfed yn gymedrol, yn ôl yr ymchwil, gan olygu cynnydd o £10 y flwyddyn mewn gwariant

Mae'r adroddiad yn dweud na fyddai'r newid yn effeithio ar bobl sy'n yfed yn 'gymedrol', ond y byddai'n cael effaith mawr ar "yfwyr risg gynyddol" ac "yfwyr risg uwch".

Hefyd, mae'n dweud bod iechyd pobl dlawd yn fwy tebygol o wella o ganlyniad i'r newid.

Mae'r adroddiad hefyd yn dweud y byddai'r newid yn achosi:

  • 3,700 yn llai o droseddau bob blwyddyn

  • 10,000 yn llai o ddiwrnodau o salwch i weithwyr

  • 1,400 yn llai o bobl yn mynd i ysbytai.

Disgrifiad o’r llun,

Dywedodd gweinidog iechyd Cymru Mark Drakeford y byddai'r llywodraeth yn ystyried darganfyddiadau'r adroddiad

'Llai o farwolaethau'

Mae gweinidog iechyd Cymru, Mark Drakeford, wedi croesawu'r adroddiad, gan ddweud ei fod yn dangos y "manteision sylweddol i iechyd y genedl, gan leihau'r camddefnydd o alcohol a'r niwed sy'n gysylltiedig ag yfed".

Ychwanegodd: "Byddai'n golygu llai o farwolaethau sy'n gysylltiedig ag alcohol ac yn lleddfu baich niwed sy'n gysylltiedig ag alcohol ar GIG Cymru.

"Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar waith cyngor y Panel Cynghori ar Gamddefnyddio Sylweddau, a gyhoeddwyd fis Gorffennaf. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad bod marwolaethau a chlefydau sy'n gysylltiedig ag alcohol wedi cynyddu wrth i gost alcohol ostwng.

"Byddwn yn ystyried y canfyddiadau hyn ac yn dal i ddatblygu ein cynigion gyda golwg ar gyflwyno deddfwriaeth."