Aelodau Seneddol yn beirniadu'r Swyddfa Bost

  • Cyhoeddwyd
y Swyddfa Bost
Disgrifiad o’r llun,

Mae disgwyl i is-bostfeistri, sy'n rheoli'r swyddfeydd post bychain, i dalu am unrhyw golledion o'u pocedi eu hunain.

Mae Aelodau Seneddol wedi beirniadu'r Swyddfa Bost am y modd y maen nhw wedi delio gyda'r honiadau bod eu system gyfrifiadurol wedi arwain at gyhuddo 150 o is-bostfeistri ar gam am gyfrifon ffug a thwyllo.

Mae dros 140 o aelodau seneddol wedi tynnu nôl eu cefnogaeth i wasanaeth cymodi'r Swyddfa Bost, a sefydlwyd i ddelio â'r honiadau.

Mae is-bostfeistri yn dweud mai meddalwedd cyfrifiadurol oedd yn gyfrifol am golli cannoedd ar filoedd o bunnau.

Dydy'r 11,500 o is-bostfeistri yn y DU ddim yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol gan y Swyddfa Bost.

Am sawl blwyddyn, mae lleiafrif bychan o is-bostfeistri yn dweud eu bod wedi cael eu defnyddio fel bychod dihangol am ddiffygion honedig mewn system IT.

Eu dadl yw bod y system wedi creu colledion ymddangosiadol o filoedd o bunnau pan nad oedd dim yn bodoli.

Mae disgwyl i'r is-bostfeistri, sy'n rheoli'r swyddfeydd post bychain,dalu am unrhyw golledion o'u pocedi eu hunain.

Mae rhai wedi troi'n fethdalwyr, eraill wedi colli eu cartrefi ac mae ambell un wedi mynd i'r carchar.

Ond mae'r Swyddfa Bost yn dweud nad oes tystiolaeth bod problem systematig gyda'u meddalwedd.

Newidiadau eang

Mae Noel Thomas, cyn bost-feistr yng Ngaerwen ar Ynys Môn a gafodd ei garcharu am gyfrifon ffug, wedi galw am newidiadau eang i wasanaeth cymodi'r Swyddfa Bost.

Ar raglen Post Cyntaf Radio Cymru, dywedodd bod nifer o bobl, gan gynnwys ei hun, wedi cael eu cyhuddo ar gam.

"Mae di bod yn frwydr hir a chaled ac ar hyn o bryd, does dim golau clir ar ddiwedd y twnnel... Mae di effeithio dros gant a hanner o bobl."

"Mae angen i ni gael pawb o gwmpas y bwrdd i sortio hyn unwaith ac am byth. Dydy'r gwasanaeth cymodi ddim yn gweithio yn ei ffurf bresennol ac mae angen i ni sicrhau bod popeth yn cael ei adfer yn iawn."