Cyflwyno mesurau wrth i Gymru 'wynebu risg uchel o ffliw adar'

IeirFfynhonnell y llun, Getty Images
  • Cyhoeddwyd

O 13 Tachwedd, mae hi'n ofyn cyfreithiol i gadw adar o dan do, oherwydd y nifer cynyddol o achosion o ffliw'r adar mewn adar cadw ac adar gwyllt ledled Prydain.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae ffliw adar yn destun pryder difrifol, nid yn unig o ran iechyd a lles anifeiliaid, ond hefyd o safbwynt cynhyrchu bwyd ac iechyd cyhoeddus.

Mae hi bellach yn ofyn cyfreithiol i bawb sy'n cadw mwy na 50 o adar o unrhyw rywogaeth gadw'r adar dan do.

Mae heidiau o lai na 50 o adar o unrhyw rywogaeth yn gorfod cael eu cadw dan do hefyd os yw eu hwyau neu eu cynhyrchion yn cael eu gwerthu neu eu rhoi i ffwrdd, oherwydd y risg uwch o drosglwyddo'r clefyd.

Yn ogystal, mae gofynion bioddiogelwch ychwanegol yn cael eu cyflwyno ar gyfer y sector adar hela, a welodd achosion o ffliw adar y tymor diwethaf.

Huw Irranca-Davies
Disgrifiad o’r llun,

'Mae Cymru yn wynebu risg uchel iawn o ffliw adar,' medd Huw Irranca-Davies

Meddai'r Dirprwy Brif Weinidog sy'n gyfrifol am Faterion Gwledig, Huw Irranca-Davies:

"Ers i'r Parth Atal Ffliw Adar gael ei gyflwyno ddechrau'r flwyddyn, mae risg y clefyd wedi cynyddu eto yn ddiweddar, ac mae Cymru bellach yn wynebu risg uchel iawn o ffliw adar.

"Nid ydym wedi gwneud y penderfyniad ar chwarae bach, ond mae'n angenrheidiol i ddiogelu ein hadar a bywoliaeth ceidwaid dofednod Cymru."

Ychwanegodd Brif Swyddog Milfeddygol Cymru, Dr Richard Irvine: "Dylai pawb barhau i fod yn wyliadwrus, rhoi gwybod ar unwaith am unrhyw amheuon bod y clefyd wedi'u taro, a sicrhau eu bod yn dilyn y gofynion bioddiogelwch gorfodol llymach i amddiffyn eich adar."

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw golwg ar y mesurau wrth fonitro a rheoli'r risg ffliw adar, ar y cyd â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion a gweinyddiaethau eraill y DU.

Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.

Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.

Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.