Safle newydd £11m i orsaf fysiau Caerdydd
- Cyhoeddwyd
Mi fydd y gwaith yn dechrau ar orsaf fysiau newydd gwerth £11m yng Nghaerdydd y flwyddyn nesaf.
Mae'n rhan o gynllun datblygu i adnewyddu canol y ddinas.
Mae Cyngor Caerdydd wedi dewis safle Tŷ Marland a'r maes parcio NCP, sy'n eiddo i'r cyngor.
Mi fydd yr orsaf newydd yn rhan o brosiect y Sgwar Canolog lle bydd BBC Cymru yn adeiladu eu pencadlys newydd erbyn 2018.
Mi fydd yr orsaf bresennol yn cau yn 2015, gydag arosfannau cael eu sefydlu mewn lleoliadau eraill dros dro.
Fe fydd cabinet y Cyngor yn penderfynu ar roi cymeradwyaeth derfynol i'r orsaf, ddylai gael ei gwblhau yn 2017, ddydd Llun.
Dywedodd Ramesh Patel, aelod y cabinet ar gynllunio a chynaladwyedd: " Mi fydd y datblygiad strategol yma yn trawsnewid sut y bydd trafnidiaeth gyhoeddus yn cael ei ddarparu yn y brifddinas, a dwi'n falch o allu cyhoeddi bod y datblygiad ar amser ac y bydd trefniadau wrthgefn yn eu lle erbyn y bydd yr orsaf fysiau yn cau ym Mehefin 2015."