'Dyn y bobl' - y gweinidog y Parchedig Marcus Robinson wedi marw

Y Parch Marcus Robinson, oedd yn weinidog a chaplan Y Llynges Frenhinol, fu farw yn 70 oed
- Cyhoeddwyd
Mae'r gweinidog y Parchedig Marcus Wyn Robinson o ardal Caernarfon wedi marw yn 70 oed.
Bu'n gweithio fel caplan i'r Llynges Frenhinol yn ystod rhyfeloedd y Falklands a'r Gwlff cyn cael ei benodi yn ysgrifennydd cyffredinol holl gaplaniaeth y môr.
Roedd yn weinidog yn ardal Dyffryn Peris ar ddechrau ac ar ddiwedd ei yrfa, ac roedd yn adnabyddus fel cymeriad llawn hiwmor oedd hefyd yn arbenigwr ar winoedd.
Wrth roi teyrnged fe ddisgrifiodd yr ymgyrchydd iaith a'r canwr gwerin poblogaidd Dafydd Iwan ef fel "dyn y bobl" oedd yn "hawdd iawn i siarad â fo, yn cymysgu hefo pawb, yn trin pawb yr un fath".

Bu'r Parch Marcus Robinson yn portreadu gweinidog ar ddiwedd yr 19eg ganrif yn y gyfres deledu Snowdonia 1890
Yn wreiddiol o Gaernarfon, fe gafodd ei enwi ar ôl y stryd yn y dref ble cafodd ei dad ei fagu - Stryd Marcus, ger caer Segontium.
Ar ôl cael ei addysg yn ysgol ramadeg y dref, fe ddechreuodd bregethu yn 18 oed cyn mynd i astudio diwinyddiaeth.
Dechreuodd ei waith fel gweinidog Presbyteraidd yn ardal Llanberis a Nant Peris yn 1978.
Yn 1982 fe gafodd ei benodi'n gaplan gyda'r Llynges Frenhinol ac yn fuan iawn wedyn fe ddechreuodd Rhyfel y Falklands.
Roedd ar fwrdd un o'r llongau cyntaf i gyrraedd yr ynysoedd ar ddechrau'r brwydro.

Roedd y Parch Marcus Robinson yn gweithio fel caplan i'r llynges am 20 mlynedd
Ynghyd â bod yn gaplan i'r morwyr, roedd ei rôl hefyd yn cynnwys bod yn rhan o'r tîm gofal cymorth cyntaf a bod yn gyfrifol am garcharorion rhyfel.
Mewn cyfweliad ar raglen Beti a'i Phobol yn 2016 bu'n sôn am un o'r cwestiynau gafodd ei ofyn iddo yn ei gyfweliad i'r swydd.
"'Na i fyth anghofio fo'n gofyn 'yda chi'n ddyn swil', a finna'n deud 'na syr, dwi o Gaernarfon - does 'na neb yn swil yn Gaernarfon'.
"Ond roedd ganddo bwynt dilys iawn. Be' oedd o'n d'eud oedd, doedd o ddim isio pobl swil fel caplaniaid.
"Doedd o ddim isio pobl oedd yn eistedd yn eu caban yn disgwyl i bobl eraill ddod i'w gweld nhw.
"Roedd o isio pobl oedd yn mynd o gwmpas eu llongau a dod i 'nabod pobl."
Roedd yn adnabyddus fel cymeriad hwyliog, llawn hiwmor a chanddo lais canu a chwerthiniad uchel.
'Taff the Laugh' oedd ei ffugenw yn y llynges, meddai, ac mai dim ond drwy ddod i adnabod pobl oedd posib iddo wneud ei waith.
"Allwch chi ddim cenhadu mewn gwagle, mae'n rhaid i chi sefydlu perthynas neu os does 'na ddim perthynas dydi pobl ddim yn medru gwrando na cheisio dehongli," meddai yn 2016.
"Mi roedd y berthynas oedd rhywun yn sefydlu yn un rhyfeddol.
"Yng nghanol sefyllfaoedd anodd os oedd rhywun yn cynnal gwasanaeth byr, bobl bach fasa chi'n medru clywed pin yn syrthio.
"Rhyw ddyhead gwirioneddol am weddi dros eu teuluoedd a rhai roedden nhw'n eu caru mewn sefyllfaoedd lle nad oedd posib gwneud dim byd arall."
Yn ôl i'w gynefin
Bu'n gweithio hefyd fel caplan yn y Rhyfel Gwlff cyntaf yn 1990 cyn cael ei benodi i swydd Ysgrifennydd Cyffredinol dros holl gaplaniaeth y môr.
Wedi iddo ymddeol o'r llynges ar ôl 20 mlynedd o wasanaeth, aeth i weithio fel caplan diwydiannol ar ran Cytûn yng ngogledd-ddwyrain Cymru.
Symudodd yn ôl i'w gynefin yn ardal Caernarfon yn 2007 ac am flynyddoedd bu'n weinidog ar gapeli Caeathro, Brynrefail, Llanrug a Bethel - lle'r oedd yn byw.
Roedd hefyd yn arbenigwr ar winoedd - diddordeb roedd o'n ei rannu gyda'i dad.
Am flynyddoedd bu'r Parch Robinson yn cynnal nosweithiau blasu gwin er mwyn casglu arian at elusennau.

Fe ddaeth hefyd yn wyneb cyfarwydd ar raglen Snowdonia 1890 ar BBC Cymru, lle'r roedd yn chwarae rhan y gweinidog yn y gyfres oedd yn ail-greu bywyd yn Eryri yn ystod yr 19eg ganrif.
Ar hyd y blynyddoedd bu hefyd yn ceisio codi ymwybyddiaeth am effaith rhyfeloedd ar iechyd meddwl milwyr.
Meddai: "Mae 'na anafiadau gweladwy, ond yr hyn dwi wedi ceisio codi ymwybyddiaeth ohono dros y blynyddoedd ydi'r anafiadau anweledig, sef yr anafiadau meddyliol, ac mae straen y trawma ar lawer o bobl yn dod allan mewn ffyrdd gwahanol iawn."
'Cyfraniad amhrisiadwy'
Wrth hel atgofion ar raglen Post Prynhawn ar Radio Cymru ddydd iau fe ddywedodd Dafydd Iwan fod Marcus Robinson yn "ddyn annwyl, dyn arbennig iawn a chymeriad hoffus iawn".
"O'dd o'r math o ddyn oedd mor addas ar gyfer y swydd yna, achos galla' i ddychmygu ei fod o wedi bod yn gefn ac yn gysur mawr i'r hogia ifanc a'r genod ifanc oedd wedi cael eu hunain mewn rhyfeloedd mor ddiangen a chreulon," meddai.
"Mi roedd o'n ddyn y bobl.
"Hyd yn oed ar ôl gadael ei waith fel caplan mi roedd o'n gymeradwy iawn fel gweinidog ac yn hawdd iawn i siarad â fo, yn cymysgu hefo pawb, yn trin pawb yr un fath."
Nododd fod pobl yn "clywed chwerthiniad Marcus Robinson o bell" cyn ychwanegu ei fod yn "un oedd yn medru cysuro pobl oedd ar goll mewn sawl ffordd, a dyna oedd ei gyfrinach o – mi oedd o'n gristion cywir iawn ond yn ddyn y bobl".
Mewn teyrnged, dywedodd llefarydd ar ran y teulu: "Fel teulu rydym yn ddiolchgar tu hwnt o'i gariad, cefnogaeth a'i gyfeillgarwch.
"Mae ei gyfraniad i fywydau'r rheiny oedd yn ei adnabod wedi bod yn amhrisiadwy.
"Un o'i hoff ddywediadau oedd: 'Ni all dyn ddarganfod cefnforoedd newydd nes bod ganddo'r dewrder i golli golwg ar y lan'."
Dilynwch Cymru Fyw ar Facebook, dolen allanol, X, dolen allanol, Instagram, dolen allanol neu TikTok, dolen allanol.
Anfonwch unrhyw syniadau am straeon i cymrufyw@bbc.co.uk, dolen allanol neu cysylltwch drwy WhatsApp ar 07709850033.
Lawrlwythwch yr ap am y diweddaraf o Gymru ar eich dyfais symudol.